Garel Rhys

Oddi ar Wicipedia
Garel Rhys
Ganwyd28 Chwefror 1940 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2017 Edit this on Wikidata
Radur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cardiff Business School Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Academydd o Gymro oedd David Garel Rhys CBE FIMI SMMT (28 Chwefror 194021 Chwefror 2017) a sylwebydd ar y diwydiant moduron ym Mhrydain. Roedd yn Athro Economeg y Diwydiant Moduro, ac yn Gyfarwyddwr ar Ymchwil Diwydiant Moduro yn Ysgol Fusnes Caerdydd.[1][2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Mynychodd David Ysgol Ramadeg Ystalyfera, yng Ngorllewin Morgannwg ar y pryd, nawr yng Nghastell-Nedd Port Talbot. Astudiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yna yn Mhrifysgol Birmingham.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

O 1984-2005 roedd yn Athro Economeg y Diwydiant Moduro ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Charlotte Mavis Walters yn 1965. Cafodd y cwpl un mab a dwy ferch a phedwar o wyrion. Roedd yn ail gefnder i Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.

Fe'i urddwyd yn Swyddog o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1989, ac fel Cadlywydd o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2007 am wasanaethau i ymchwil economaidd yng Nghymru. Roedd yn lifreiwr o Worshipful Company of Carmen, a rhoddwyd Rhyddid Dinas Llundain iddo yn 2000.[3]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • The Motor Industry: An Economic Survey (1971)
  • The Motor Industry in the European Community (1989)
  • Outsourcing and Human Resource Management (cyfrannwr, 2008)[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Yr athro Peter Wells, Athro Busnes a Chynaliadwyedd yn Ysgol Fusnes Caerdydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hothi, Nicola R. (2005). Globalisation & manufacturing decline: aspects of British industry. Arena books. t. 51. ISBN 978-0-9543161-4-3.
  2. "Fiat faces uphill climb to seal GM deal". The Daily Telegraph. 4 Mai 2009. Cyrchwyd 27 Chwefror 2011.
  3. 3.0 3.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-09. Cyrchwyd 2017-02-23.