Garden Village, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Garden Village
Mathpentref, ward etholiadol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0617°N 2.9958°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ332520 Edit this on Wikidata
Cod postLL11 Edit this on Wikidata
Map

Maestref o Wrecsam a ward etholiadol yng nghymuned Rhos-ddu, Mwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Garden Village.[1] Cafodd yr enwau Pentref Gardd a Pentre'r Ardd eu hawgrymu fel fersiynau Cymraeg o "Garden Village", ond yn ôl Comisiynydd y Gymraeg does dim prawf bod enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer y lle. Saif y faestref i'r gogledd o ganol y dref ac i'r gorllewin o Chester Road. Mae'r ward etholiadol yn ffinio â wardiau Stansty, Dwyrain a De Gwersyllt, Little Acton ac Acton, a rhan fechan o Gresffordd.

Poblogaeth y ward yng Nghyfrifiad 2011 oedd 2,035.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Enw gwreiddiol y tir lle cafodd Garden Village ei adeiladu oedd "Mass & Pentre". Lleolir y tir i'r de-orllewin o blasty Stansty Hall (dymchwelwyd y plasty er mwyn creu gofod ar gyfer tai newydd).[3][4]

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd tai o ansawdd gwael mewn llawer o ardaloedd yn Wrecsam, ac roedd twf mewn diwydiant yn yr ardal leol yn achosi prinder tai.[5]

Dechreuodd datblygiad Garden Village pan brynodd yr Welsh Town Planning and Housing Trust tua 200 acr (81 ha) o dir oddi wrth Syr Foster Cunliffe ger ystâd Plas Acton.[6]

Pwrpas y prosiect oedd darparu tai fforddiadwy ar gyfer gweithwyr oedd yn symud i Wrecsam i weithio yn y diwydiannau glo a haearn. Roedd Glofa Gresffordd wedi’i hagor yn ddiweddar ac roedd disgwyl y byddai tua 3,000 o ddynion yn cael eu cyflogi yn y ddwy flynedd nesaf.[6]

Yn 1913, sefydlwyd cymdeithas tai cyd-bartneriaeth o'r enw Wrexham Tenants Limited. Roedd yr Arglwydd Kenyon a David Davies, Barwn 1af Davies ac AS ar gyfer Sir Drefaldwyn, ymysg cyfarwyddwyr y gymdeithas. Ar yr un pryd, roedd David Davies a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies wedi sefydlu yr Welsh Town Planning a Housing Trust i hyrwyddo tai gwell yng Nghymru a mannau eraill. Byddai Wrexham Tenants Ltd yn adeiladu'r tai eu hunain, tra byddai'r ymddiriedolaeth yn adeiladu'r ffyrdd ac yn goruchwylio datblygiad y stad.[6]

Lleoliad ward etholiadol Garden Village ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Y cynllun gwreiddiol, gan y pensaer George Lister Sutcliffe,[5] oedd darparu athrofa, dau addoldy, ysgol a digon o fannau agored a meysydd chwarae.[6] Ysbrydolwyd y dyluniad gan fudiad Garden City ac fe'i cynlluniwyd fel maestref gardd. Yn y flwyddyn gyntaf, cwblhawyd 44 ty:[6] rhifau 63-69 Acton Gate, rhifau 149–167 Chester Road (enw gwreiddiol yr heol: Bryn Acton), a Cunliffe Walk. Cynlluniwyd y tai cyntaf gan Sutcliffe, ac yr weddill (205 ty) gan Thomas Alwyn Lloyd, pensaer yr ymddiriedolaeth.[5]

Un o nodweddion arloesol y datblygiad oedd bod y tenantiaid hefyd yn fuddsoddwyr yn y cwmni.[5]

Gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf, collodd y datblygiad ysgogiad ac ni wnaed unrhyw ddatblygiad pellach gan Wrexham Tenants Limited. Ni chodwyd y siopau, yr eglwysi, yr athrofa na'r ysgol erioed, ond cafodd Eglwys Santes Farged ei hadeiladu ym 1928, yn dilyn yn rhannol cynllun gwreiddiol Thomas Alwyn Lloyd.[5]

Yn 1955, daeth Wrexham Tenants Limited i ben a gwerthwyd y tai i'r tenantiaid am brisiau llawer is o rhwng £250 a £450.[5]

Cofrestrwyd Garden Village yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 409889.[7]

Ysgolion[golygu | golygu cod]

  • Wat's Dyke County Primary School

Eglwysi[golygu | golygu cod]

  • Eglwys y Santes Farged
  • Capel Bethel

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 4 Mehefin 2022
  2. "Ward population 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 18 November 2015.
  3. Electronic reproduction of: Wrexham (Hills), Sheet 121 Originally published 1898.
  4. "Wrexham (Hills), Sheet 121". National Library of Scotland. Edinburgh : National Library of Scotland. 2005 [1898].
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 "The History of St Margaret's and Garden Village". Parish of Wrexham. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2014. Cyrchwyd 7 November 2014.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 The Garden City Movement Up-To-Date by Ewart G. Culpin (Retrieved 2011-01-11)
  7. "Wrexham Garden Village, Acton Park, Wrexham - Coflein". Cyrchwyd 24 May 2022.