Gardd RHS Bridgewater
Gwedd
| Math | gardd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Salford |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.4998°N 2.4004°W |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol |
Gardd ym mhentref Worsley, Manceinion Fwyaf, yw Gardd RHS Bridgewater a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Hyde Hall, Harlow Carr, a Rosemoor yw'r lleill. Mae wedi ei henwi ar ôl Camlas Bridgewater sy'n ffurfio'i ffin ddeheuol.
Roedd yr ardd yn wreiddiol yn rhan o ystad Worsley New Hall, plasty a ddymchwelwyd yn 1940. Aeth y gerddi helaeth a godidog eu hunain yn adfail. Mae'r ardd bresennol yn rhan o gynllun i'w hadfer a'u hadnewyddu. Fe’i hagorwyd i’r cyhoedd yn 2021.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History of Worsley New Hall", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022
