Neidio i'r cynnwys

Gardd RHS Hyde Hall

Oddi ar Wicipedia
Gardd RHS Hyde Hall
Mathgardd fotaneg, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRettendon Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.6661°N 0.5758°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganCymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Edit this on Wikidata
Map

Gardd yn Essex, Dwyrain Lloegr, yw Gardd RHS Hyde Hall a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Fe'i lleolir tua 1.5 milltir (2 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentref Rettendon, sy'n tua 5 milltir (8 km) i'r de o ddinas Chelmsford. Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Harlow Carr, Rosemoor a Bridgewater yw'r lleill.

Crëwyd y safle 360 erw o dir fferm ym 1955. Fe'i rhoddwyd i'r RHS yn 1993. Mae’n cynnwys amrywiaeth o arddulliau garddio, yn ogystal â chanolfan ymwelwyr a llyfrgell gyfeiriadurol.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "History of Hyde Hall", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]