Gabriela

Oddi ar Wicipedia
Gabriela
AwdurJohn Roberts
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847716989
GenreFfuglen

Nofel gan John Roberts yw Gabriela a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Nofel seicolegol gyfoes gref am Gabriela, menyw ifanc drawiadol o Frasil sy'n dilyn ôl traed ei mam ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen. Dyma ddeunydd anarferol i nofel Gymraeg, ac mae'r stori'n afaelgar iawn.

Magwyd John Roberts ar fferm ger Llangïan, Gwynedd. Bu’'n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Dyma nofel gyntaf yr awdur hwn o Aberystwyth, ond mae eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru sy'’n trin a thrafod materion crefyddol yr wythnos.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.