G. E. Moore

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
G. E. Moore
George Edward Moore.jpg
Ganwyd 4 Tachwedd 1873 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Hydref 1958 Edit this on Wikidata (84 oed)
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Addysg Doctor of Letters Edit this on Wikidata
Alma mater Coleg y Drindod, Coleg Dulwich Edit this on Wikidata
Gwaith Athronydd, academydd Edit this on Wikidata
Aelod o Yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Teilyngdod Edit this on Wikidata

Athronydd o Sais oedd G. E. Moore (4 Tachwedd 187324 Hydref 1958) oedd yn ddylanwadol yn athroniaeth Realaidd ac yn aelod o'r grŵp Bloomsbury. Ynghyd â Bertrand Russell a Ludwig Wittgenstein, fe drodd Goleg y Drindod, Caergrawnt yn ganolfan i athroniaeth ddadansoddol yn hanner cyntaf yr 20g.

Cafodd ei eni a'i fagu yn ne Llundain. "George Edward" oedd ei enwau cyntaf, ond nid oedd yn hoff o'r rhain a fe wrthododd eu defnyddio. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw'n Bill gan ei wraig.[1] Astudiodd Glasuron yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac ychwanegodd athroniaeth at ei radd wedi iddo ymgyfeillio â Bertrand Russell a J. M. E. McTaggart. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg y Drindod ym 1898, ac astudiodd yno hyd 1904.

Cyhoeddodd ei brif waith ar foeseg, Principia Ethica, ym 1903. Trigodd am gyfnod yng Nghaeredin a Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gaergrawnt ym 1911. Addysgodd fel athro athroniaeth o 1925 hyd 1939. O 1921 hyd 1944 Moore oedd golygydd y cyfnodolyn athroniaeth Mind.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "George Edward Moore", Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford). Adalwyd ar 3 Chwefror 2018.