Neidio i'r cynnwys

Gŵyl Jazz Aberhonddu

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Jazz Aberhonddu
Enghraifft o:gŵyl gerddoriaeth, digwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
LleoliadAberhonddu Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.breconjazzfestival.co.uk/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu yn wŷl gerddorol a gynhelir yn flynyddol yn Aberhonddu, Cymru.  Cynhelir yr ŵyl fel arfer ar ddechrau mis Awst, a thros y blynyddoedd mae wedi cynnwys llu o gerddorion jazz o bob cwr o'r byd.

Yn 1984 y trefnwyd yr ŵyl gyntaf, a hynny gan Jed Williams, perchennog y Four Bars Inn,[1][2]. Roedd George Melly, a oedd yn perchen ar dŷ gerllaw, yn perfformio.[3]

Yn ogystal â'r brif ŵyl, mae Gwyl 'Fringe' Aberhonddu yn trefnu cerddoriaeth amgen, am ddim mewn tafarnau, gwestai, galeriau a bwytai yn y dre.[4]

Cerddorion Jazz yn Brecon

[golygu | golygu cod]

Cerddorion Jazz sydd wedi perfformio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu.[5]

Plac (Kind of) Blue

[golygu | golygu cod]

Yn 2009, i ddathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi albwm Miles Davies, Kind of Blue, gwahoddwyd cefnogwyr jazz i gyflwyno enwebiadau ar gyfer gwobr, sef y Blue Plaque i'w dyfarnu'n flynyddol, a chyflwynwyd y cyntaf yn 2010 i anrhydeddu y lleoliadau sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig i jazz yn y Deyrnas Unedig.  Dewiswyd deuddeg ac enwebwyd:

  • The Four Bars Inn (nawr Dempseys), Castle Street, Caerdydd, 1987–presennol.
  • Band on the Wall, Swann Street, Manceinion, 1970s-presennol
  • The Perch, Binsey Lane, Binsey 1928-1948.
  • Buckingham Palace, Llundain, 1919-1932.
  • The Old Duke, King Street, Bryste, late 1960s-presennol.
  • The Concorde Club, Eastleigh, Hampshire, 1957–presennol.
  • The Feldman Swing Club, Oxford Street, Llundain, 1942-1954.
  • Ronnie Scott's, Frith Street, London, 1959–presennol.
  • The Bull's Head, Barnes, De-Orllewin Llundain, 1959–presennol.
  • Hippodrome, Cranbourn Street, Llundain, 1900-1983.
  • Hammersmith Palais, Llundain, 1919-2007.
  • Club Eleven, Windmill Street, Carnaby Street y pryd hwnnw, London, 1948-1950.[9]

Y Concorde Club derbyniodd y nifer uchaf o bleidleisiau i gychwyn, wedi ei ddilyn gan The Band on the Wall a Ronnie Scott's, a fe fydd y clwb yn derbyn y plac (Kind of) Blue cyntaf.[10]

Gwybodaeth Tocynnau

[golygu | golygu cod]

Mae rhaglenni'r cerddoriaeth dros benwythnos yr ŵyl yn cynnwys:

Cerddoriaeth am ddim yn agored i bawb, ac a berfformir yng nghanol Aberhonddu ar y strydoedd sydd ar gau i draffig ar benwythnos yr ŵyl.[11][12]

Mae'r Rhaglen Gyngerdd yn cynnwys eitemau gyda naws rhyngwadol.  Mae angen tocyn unigol ar gyfer pob cyngerdd.

Mae Gwersylla yn boblogaidd yn yr Ŵyl, gyda dau brif wersyll sy'n agored i ddeiliaid tocynnau a hefyd gwersylloedd annibynnol o gwmpas Aberhonddu.  Mae Gwestai a Gwely a Brecwast hefyd ar gael, ond mae'r galw uchel yn golygu bod angen archebu'n gynnar.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Jed Williams" The Independent (1 Rhagfyr 2003)[dolen farw]
  2. ↑ "HSBC Brecon Jazz 2008 : 7-10 Awst - Official Website ::". Friendsofbreconjazz.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-24. Cyrchwyd 2014-05-20.
  3. ↑ Phil Johnson (1993-08-06). "JAZZ / Swinging in the valley: Phil Johnson reports on a small Welsh town bracing itself for a musical and on the voice of Julian Joseph - Arts and Entertainment". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-24. Cyrchwyd 2014-05-20. More than one of |author= a |last= specified (help)
  4. ↑ http://www.breconfringe.co.uk www.breconfringe.co.uk
  5. ↑ "Welcome". Friends of Brecon Jazz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-25. Cyrchwyd 2014-05-20.
  6. ↑ Trish Clowes
  7. ↑ breconjazz.com
  8. ↑ Brecon Jazz Club Events
  9. ↑ "Buckingham Palace hits right note with jazz fans", London Evening Standard (3 August 2009) Archifwyd 26 Ebrill 2010 yn y Peiriant Wayback
  10. ↑ "Most important jazz venue named", BBC News (7 Awst 2009)
  11. ↑ "Wales | Street music returns to jazz fest". BBC News. 2007-05-31. Cyrchwyd 2014-05-20.
  12. ↑ "Jazz in Wales". Jazz in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-17. Cyrchwyd 2014-05-20.