Gŵr

Oddi ar Wicipedia

Bod dynol gwryw, gan amlaf yn yr ystyr dyn mewn llawn oedran ac yn fwy penodol yn yr ystyr gyfyng "dyn priod, cymar gwraig," yw gŵr.

Ystyron eraill[golygu | golygu cod]

Ceir sawl ystyr arall, yn enwedig mewn hanes a llenyddiaeth. Defnyddir y ffurf luosog 'gwŷr' gyda enw gwlad i olygu "pobl neu drigolion", e.e. "gwŷr Groeg", "Gwŷr y Gogledd". Ceir hefyd yr ystyr hynafol "milwr, rhyfelwr, ymladdwr dewr", e.e. yn y llinell gyfarwydd o Y Gododdin, 'Gwŷr aeth Gatraeth...', yn aml fel cyferbyniad i 'was' neu 'fab'. Mewn perthynas â brenin, gall olygu "deiliad ffiwdal" hefyd. Yn drosiadol, gall 'Y Gŵr' olygu Crist hefyd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tt. 1693-1695.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am gŵr
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.