Freshwater West
| Math | traeth |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Y Stagbwll a Chastellmartin, Angle |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.6565°N 5.0594°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Traeth yng nghymuned Angle, Sir Benfro, Cymru, yw Freshwater West.[1] Saif ar bwys Castell Martin yn gyfagos i Faes Tanio Tanciau sy'n defnyddio'r rhan yma o Barc Cenedlaethol Sir Benfro.
Amgylchir y traeth gan dwyni tywod, a cheir tywod mân yno. Er gwaethaf ei harddwch naturiol, nid yw Freshwater West yn addas ar gyfer ymdrochi oherwydd ymchwyddiadau alltraeth peryglus a cheryntau cryf. Mae rhannau o'r traeth yn sugndraeth a cheir arwyddion rhybudd ar hyd yr arfordir o ganlyniad.
Er hynny, defnyddir brigdonwyr Freshwater West yn aml oherwydd ei ymchwydd cyson a thonnau cryf. Cynhaliwyd Pencampwriaethau Brigo Tonnau Cenedlaethol Cymru yn Freshwater West hefyd.

Lleoliad ffilmio
[golygu | golygu cod]Yn 2009, defnyddiwyd traeth Freshwater West fel lleoliad fersiwn o'r ffilm Robin Hood sy'n serenu Russell Crowe a'r ffilm olaf ond un yng nghyfres Harry Potter and the Deathly Hallows: Rhan I. Ar gyfer y ffilm hon adeiladwyd bwthyn dros dro o'r enw Bwthyn Cragen.
- Adeiladwyd "Bwthyn Cragen" ar gyfer Harry Potter and the Deathly Hallows
- Golygfa ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows cyferbyn â choffa'r rhyfel ar ben traeth Freshwater West
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Chwefror 2022
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Beach of the week: Freshwater West. telegraph.co.uk. Telegraph Media Group (2007-07-02).
- Freshwater West. bbc.co.uk/wales. British Broadcasting Corp. (2006-03-03).
