Frank Richards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Frank Richards
Ganwyd 1883 Edit this on Wikidata
Bu farw 1961 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/au y Fedal Filwrol Edit this on Wikidata

Awdur Cymreig a milwr y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Frank Richards, neu Francis Philip Woodruff (Mehefin 1883 - 1961).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Frank yn fferm Machen Uchaf, Machen, Gwent, yn fab ordderch i Francis Augustus Woodruff, perchennog gwaith tun a gwaith glo, a Mary Ann Richards ei forwyn [1]. Gan fod ei dad yn cydnabod mai ef oedd y tad, rhoddwyd y cyfenw Woodruff ar y dystysgrif geni[2]. Bu farw ei fam tua 1892 a magwyd Frank wedyn gan frawd ei fam a defnyddiodd y cyfenw Richards oddi ar hynny, os nad cynt.

Prin fu ei gyfleoedd addysg. Bu am gyfnod byr yn ddisgybl yn Ysgol Ddiwydiannol Sir Fynwy (ysgol y wyrcws) ac Ysgol Genedlaethol Blaenau Gwent gan ymadael a'r ysgol yn 12 mlwydd oed[3] i weithio mewn un o lofeydd ei dad naturiol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Old Soldiers Never Die (1933)
  • Old Soldier Sahib (1936)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "AFFILIATION CASE - South Wales Echo". Jones & Son.. 1886-07-10. http://hdl.handle.net/10107/4406213. Adalwyd 2017-11-13.
  2. Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, Genedigaethau 2il chwarter 1883, Cyfrol 11A tudalen 236, cofnod Woodruff, Francis Phillip
  3. Archif Gwent, National School Admission Registers & Log-Books 1870-1914 (Blaina School (Boys) Cofnod Rhif: CEA167/12
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.