Foel Hafod-fynydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Foel Hafod-fynydd
Hafpdfynydd.JPG
Math mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 689 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.7879°N 3.6884°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 84 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Aran Fawddwy Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Eryri Edit this on Wikidata

Mae Foel Hafod-fynydd yn un o is-gopaon Aran Fawddwy, tua 6 km i'r dwyrain o Lanuwchllyn, ger y Bala, Gwynedd. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 84m: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf (Erw y Ddafad-ddu).

Ceir carnedd fechan o gerrig ar y copa. Saif Esgeiriau Gwynion i'r gogledd, Llechwedd Du i'r dwyrain, a Gwaun Lydan i'r de.[1]

Dosbarthu'r copaon[golygu | golygu cod y dudalen]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 612.65 metr (2010 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nuttall, John & Anne (1999). The Mountains of England & Wales - Volume 1: Wales (2nd edition ed.). Milnthorpe, Cumbria: Cicerone. ISBN 1-85284-304-7.
  2. “Database of British and Irish hills”

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]