Flora Murray

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Flora Murray
Flora Murray 1914.jpg
Ganwyd 1869 Edit this on Wikidata
Dumfries Edit this on Wikidata
Bu farw 1923 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
  • Prifysgol Durham
  • Ysgol Feddygaeth i Fenywod Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Meddyg, Swffraget Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE Edit this on Wikidata

Ffeminist o'r Alban oedd Flora Murray (ganwyd 1869) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel meddyg a swffragét.

Cafodd ei geni ar fferm yn Murraythwaite, Dumfries yn 1869 yn ferch i Grace Harriet (née Graham) a John Murray, tirfeddiannwr a chapten y Llynges Frenhinol. Mynychodd ysgol yn yr Almaen a Llundain cyn mynd ymlaen i astudio i fod yn feddyg yn 'Ysgol Feddygaeth i Fenywod Llundain'. Cwblhaodd ei haddysg feddygol ym Mhrifysgol Durham, gan dderbyn ei MB BSc yn 1903, a MD yn 1905. Derbyniodd Ddiploma mewn Iechyd Cyhoeddus gan Brifysgol Caergrawnt ym 1906. Gweithiodd i ddechrau yn yr Alban cyn dychwelyd i Lundain. [1][2]

Ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yn 1908, a bu'n feddyg yn y fyddin. Siaradodd mewn cyfarfodydd a ralïau, a bu ar lawer o orymdeithiau a darparodd gymorth cyntaf mewn arddangosiadau swffragetiaid. Bu'n gofalu am Emmeline Pankhurst ac ymrydwyr eraill ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar. Bu'n ymgyrchu gyda meddygon eraill yn erbyn arferiad creulon yr oes o orfodi bwyd i lawr corn gwddw'r merched.

Bu farw ym mynwent Eglwys y Drindod, Hampstead, Llundain.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, https://www.oxforddnb.com/Wikidata Q17565097 "Dr Flora Murray"; dynodwr OpenPlaques (person): 4665.
  2. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, https://www.oxforddnb.com/Wikidata Q17565097