Fiorello La Guardia

Oddi ar Wicipedia
Fiorello La Guardia
Ganwyd11 Rhagfyr 1882 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1947 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Maer Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodMarie M. La Guardia Edit this on Wikidata
PerthnasauSamuel David Luzzatto Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Peabody, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Fiorello Henry La Guardia (11 Rhagfyr 188220 Medi 1947), yn wleidydd o'r Unol Daleithiau a wasanaethodd fel maer Dinas Efrog Newydd rhwng 1933 a 1945. Roedd yn gyfrifol am welliannau dinesig eang.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed La Guardia yn Ninas Efrog Newydd. Yn fab i Achille Luigi Carlo La Guardia, meistr band Eidalaidd ym myddin yr Unol Daleithiau, ac Irene Luzzatto-Coen.[2] Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ne Dakota ac Arizona. Symudodd wedyn gyda'i dad i Florida, lle bu'n gweithio ar bapur newydd yn St Louis. Wedi marw ei dad ym 1898 aeth gyda'i fam i Budapest, Hwngari, i ymweld â'i pherthnasau.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn y 1900au cynnar gwasanaethodd fel conswl yr Unol Daleithiau yn Budapest a Fiume, gan ddychwelyd i Efrog Newydd ym 1906 i astudio'r gyfraith. Wedi'i dderbyn i'r bar yn 1910, daeth yn ddirprwy atwrnai cyffredinol dros Efrog Newydd ym 1915 a'r flwyddyn ganlynol etholwyd i'r Gyngres fel Gweriniaethwr. Amharwyd ar ei dymor cyntaf yn y Gyngres gan gyfnod o wasanaeth gyda'r awyrlu yn y Rhyfel Byd Cyntaf; ail-etholwyd ym 1922, gwasanaethodd am ddeng mlynedd arall. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n rhan o hynt Deddf Norris-La Guardia (1932), a oedd yn gwahardd cytundebau gwrth undebau llafur ac yn cefnogi hawl yr undebau i streicio a phicedu'n heddychlon.[3]

Ym 1933, ar ôl ymgais aflwyddiannus bedair blynedd ynghynt, etholwyd La Guardia yn faer Dinas Efrog Newydd, swydd y byddai'n ei dal am dri thymor o bedair blynedd yn olynol. Enillodd barch ac anwyldeb pobl Efrog Newydd yn gyflym. Cafodd ei adnabod gan bobl y ddinas fel 'y Blodyn Bach',[4] o'i enw cyntaf. O dan weinyddiad La Guardia, cafodd y ddinas weddnewidiad, gyda phrosiectau clirio slymiau enfawr a rhaglenni adeiladu uchelgeisiol ar gyfer ysgolion, pontydd, meysydd chwarae a pharciau. Gwellodd hefyd effeithlonrwydd y llywodraeth ddinesig, gan frwydro yn erbyn llygredd ar bob lefel, a chafodd siarter newydd i'r ddinas ym 1938.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Swyddfa Amddiffyn Sifil yr Unol Daleithiau rhwng 1941 a 1942. Ym 1946, wedi sefyll i lawr o swydd y faer y flwyddyn flaenorol, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol. O'r UNRRA (Gweinyddiaeth Rhyddhad ac Adsefydlu'r Cenhedloedd Unedig).

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Le Guardia yn briod ddwywaith. Priododd a Thea Almerigotti ym 1919, cawsant ferch a bu farw cyn cyrraedd ei phen-blwydd cyntaf a bu farw Thea ym 1921.

Priododd ei ail wraig, Marie Fisher, ym 1929 cawsant mab a merch trwy fabwysadiad.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o ganser y pancreas yn ei gartref yn 5020 Goodridge Avenue, yng nghymdogaeth Fieldston, Riverdale, Bronx, ar 20 Medi, 1947, yn 64 oed. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Woodlawn yn y Bronx.[6]

Mae un o brif feysydd awyr Efrog Newydd wedi'i enwi ar ei ôl.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Fiorello La Guardia | Mayor of NYC, Civic Reformer | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-03.
  2. "LA GUARDIA, Fiorello in "Enciclopedia Italiana"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2023-09-03.
  3. Briggs, Asa, gol. (1992). A Dictionary of 20th Century World Biography. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 326.
  4. Schriftgiesser, Karl (1938-01-01). "Portrait of a Mayor: Fiorello La Guardia". The Atlantic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-03.
  5. Kessner, Thomas (1989). Fiorello H. LaGuardia and the Making of Modern New York. . McGraw Hill Education. tt. 21. ISBN 0-07-034244-X.
  6. "From the archive, 22 September 1947: New York mayor LaGuardia dies". The Guardian (yn Saesneg). 2015-09-22. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-09-03.
  7. Hussain, Amar (2023-08-31). "LaGuardia Airport [LGA] — Ultimate Terminal Guide". UpgradedPoints.com. Cyrchwyd 2023-09-03.