Ffynnon Santes Wenfaen
| Enghraifft o: | ffynnon sanctaidd |
|---|---|
| Rhan o | Rhestr Henebion Cofrestredig Ynys Môn |
| Lleoliad | Rhoscolyn |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Rhoscolyn |
| Dynodwyr | |
Mae ffynnon Wenfaen wedi ei lleoli yn Rhoscolyn ar Ynys Môn. Gwelir y ffynnon rhyw hanner milltir o'r eglwys. Mae'r eglwys uwchben y môr ar lethr orllewinol Porth Gwalch. Mae'r ffynnon mewn cyflwr da hyd heddiw ac llwybr cerrig yn arwain ati. Llifa'r dŵr ohoni i'r môr ym Mhorth y Saint.
"Llanwenfaen" oedd yr enw gwreiddiol ar Rhoscolyn. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Santes Gwenfaen. Tad Gwenfaen oedd Pawl Hen ac roedd hi'n chwaer i Peulan a Gwyngeneu. Yn ôl traddodiad roedd angen offrymu dwy garreg cwarts wen i Wenfaen. Mae enw'r santes (Gwenfaen) yn gyfystyr a charreg wen – gwen faen.[1]
Lewis Morris
[golygu | golygu cod]Enw adnabyddus sydd â chysylltiadau efo'r ffynnon oedd y llenor a'r hynafiaethydd Lewis Morris. Priododd Elin Griffith, Tŷ Wildrin, Rhoscolyn yn 1729 ac roedd ei chartref hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ffynnon. Roedd Morris yn gyfarwydd â holl draddodiadau a hanesion y ffynnon. Yn ei gerdd The Sacred Well of Gwenfaen, Rhoscolyn mae'r awdur yn sôn am ddwr y ffynnon a'i effeithiau. Roedd pobol yn dod at y ffynnon i wella o'u hafiechydon meddyliol. Ysgrifennodd Morris ei fod ef ei hun wedi ymweld â'r ffynnon arbennig hon.
| “ | Full oft have I repaired to drink that spring waters which cure diseases of the soul as well as body, and which always prove the only remedy for want of sense. | ” |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eirlys a Ken Lloyd Gruffydd, Ffynhonnau Cymru, Cyfrol 2: Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn, Llyfrau Llafar Gwlad 43 (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
