Ffynnon Parc Mawr

Oddi ar Wicipedia

Mae ffynnon Parc Mawr wedi ei lleoli ym Mhenrhosllugwy wrth ymyl Amlwch ar Ynys Môn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd y ffynnon yn cael ei ystyried yn un addas ar gyfer melltithio. Dyma ddarn o erthygl ysgrifennodd E. Neil Baynes yn Nhrafodion Hynafiaethwyr Môn yn 1928.

Not long ago a man found a frog stuck full of pins or needles in this well. The ceremonial was to stick pins in a frog, place it between two stones and deposit it in a well with a piece of slate on which the name of the person to be bewitched was scratched. Sometimes the heart of a black cat was added. If the spell worked the person whose name was written on the slate would be burnt between two bundles of faggots. [1]

Dŵr Copr[golygu | golygu cod]

Roedd ffynnon Parc Mawr yn cael ei ystyried yn un iachusol ac roedd trigolion yr ardal yn ei disgrifio fel 'dŵr copr'. Ond yn ôl hen fapiau ordnans mae’n cael ei chyfeirio fel tarddell gyda lefel ‘uchel o haearn’ yn ei dŵr a galwyd yn Chalybeate Spring [2] Ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf cododd yr Arglwydd Boston gorchudd o ruddfaen drosti. Erbyn hyn mae’r ffynnon wedi’i hesgeuluso. Dim ond merddwr drewllyd sydd ynddi bellach.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Trafodion Hynafiaethwyr Môn - erthygl gan E. Neil Baynes
  2. http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/penrhoslligwy.htm