Ffynnon Cyngar

Oddi ar Wicipedia
Ffynnon Gyngar, Llangefni

Mae ffynnon Cyngar wedi ei lleoli wrth ymyl Eglwys Sant Cyngar yn Llangefni, Ynys Môn.

Mae'r ffynnon ychydig o lathlenni o'r eglwys ac ar gyrion Nant y Pandy. Yn ôl llyfr Tomos Roberts a Gwilym Jones, Enwau Lleoedd Môn mae gweddillion y ffynnon i'w gweld ond nad oedd y darddell yn llifo'n effeithiol.[1] Nid oes unrhyw draddodiad am y ffynnon hon wedi goroesi.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enwau Lleoedd Môn gan Gwilym T. Jones a Tomos Roberts
  2. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)