Neidio i'r cynnwys

Gwydr lliw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ffenestr wydr lliw)
Rhan o ffenestr wydr lliw yn adrodd hanes Moses yn Eglwys Gadeiriol Cwlen.
gwydr lliw Carlo Roccella.

Gall gwydr lliw gyfeirio at unrhyw wydr sydd wedi ei liwio, ond fel rheol mae'n cyfeirio ar ffenestri lle'r defnyddir darnau o wydr o wahanol liwiau i greu llun neu batrwm. Mae gwydr lliw o'r math hwn yn arbennig o nodweddiadol o eglwysi.

Ceir ychydig o enghreifftiau mewn eglwysi yn dyddio o'r 11g a'r 12g. Mae ffenestri lliw yn arbennig o nodweddiadol o adeiladau eglwysig yn yr arddull Gothig o'r 13g ymlaen.

Ymhlith yr esiamplau enwocaf, mae'r gwydr lliw yn eglwys y Sainte Chapelle ym Mharis, yn Eglwys Gadeiriol Chartres ac yn Eglwys Gadeiriol Cwlen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Llun o Ffenestr Cymru. Nodir ar waelod y ffenest: Given by the people of Wales.