Ferdawsi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ferdowsi Tousi)
Ferdawsi
Ganwydحَکیم اَبوالقاسِم فِردُوسی طوسی Edit this on Wikidata
940 Edit this on Wikidata
Tus Edit this on Wikidata
Bu farwTus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSamanid Empire, Ghaznavid Empire Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amShahnameh Edit this on Wikidata

Hakīm Abul-Qāsim Firdawsī Tūsī (Perseg: حکیم ابوالقاسم فردوسی توسی), y trawslythrennir ei enw personol gan amlaf yn Firdawsi, Firdausi neu Ferdowsi (9351020), yw efallai'r bardd mwyaf ei barch yn yr iaith Berseg ac un o brif ffigyrau diwyllianol Iran. Mae Firdawsi'n adnabyddus yn bennaf fel awdur yr arwrgerdd hir Shāhnāma (sef 'Llyfr y Brenhinoedd'), epig genedlaethol Persia (Iran heddiw).

Fe'i ganwyd ger Tus yn Khorasan, yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Ysgrifennodd ei gampwaith yn llys Mahmud o Ghazni pan oedd tua 60 oed a'i orffen yn 1008. Cyfansoddodd nifer o gerddi byrrach yn ogystal, yn kasidas a ghazals. Cerdd arwrol arall a gyfansoddodd yw Yusuf u Zulaykha, seiliedig ar hanes Ioseff a gwraig Potiphar yn yr Hen Aifft.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner IranEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Iraniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.