Ferdawsi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hakīm Abul-Qāsim Firdawsī Tūsī (Perseg: حکیم ابوالقاسم فردوسی توسی), y trawslythrennir ei enw personol gan amlaf yn Firdawsi, Firdausi neu Ferdowsi (9351020), yw efallai'r bardd mwyaf ei barch yn yr iaith Berseg ac un o brif ffigyrau diwyllianol Iran. Mae Firdawsi'n adnabyddus yn bennaf fel awdur yr arwrgerdd hir Shāhnāma ('Llyfr y Brenhinoedd'), epig cenedlaethol Persia (Iran heddiw).

Fe'i ganwyd ger Tus yn Khorasan, yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Ysgrifenodd ei gampwaith yn llys Mahmud o Ghazni pan oedd tua 60 oed a'i orffen yn 1008. Cyfansoddodd nifer o gerddi byrrach yn ogystal, yn kasidas a ghazals. Cerdd arwrol arall a gyfansoddodd yw Yusuf u Zulaykha, seiliedig ar hanes Ioseff a gwraig Potiphar yn yr Hen Aifft.

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Iran.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.