Felodrom Cenedlaethol Cymru
| Math | lleoliad chwaraeon, Felodrom |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 2003 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Pentref Chwaraeon Rhyngwladol |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5741°N 2.9572°W |
![]() | |
Arena dan do yng Nghasnewydd yw Felodrom Cenedlaethol Cymru a leolir ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Llyswyry. Mae adnoddau'r Felodrom yn cynnwys trac 250 metr dan do wedi ei wneud o binwydd Siberiaidd, ystafell digwyddiadau/stiwdio ddawns, ystafell bwysau rhad ac am ddim, ystafell ffitrwydd, ystafell profi cyffuriau ac arena chwaraeon amlbwrpas dan do.
Mae ganddi seddi ar gyfer 500 o wylwyr. Mae Felodrôm Casnewydd yn gartref i Bencadlys Beicio Cymru a Chlwb Beicio Velo Ieuenctid Casnewydd .
Mae trac awyr agored beicio speedway wedi ei leoli yn y Felodrom.
Defnyddiwyd y Felodrom gan y tîm beicio Prydeinig ar gyfer ei gwersylloedd paratoi cyn Gemau Olympaidd yr Haf 2008, 2012 a 2016.[1]
Cyhoeddwyd ym mis Awst 2018 y byddai'r Felodrôm yn cael ei hail-enwi ar ôl enillydd Cymreig cyntaf y Tour de France, sef Geraint Thomas.[2]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Felodrom Cenedlaethol Cymru Archifwyd 2018-09-01 yn y Peiriant Wayback
- Clwb Beicio Velo Ieuenctid Casnewydd Archifwyd 2018-04-21 yn y Peiriant Wayback
