Felicia Montealegre
Felicia Montealegre | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1922 San José, Costa Rica |
Bu farw | 16 Mehefin 1978 o canser yr ysgyfaint East Hampton |
Dinasyddiaeth | Costa Rica UDA |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor teledu |
Priod | Leonard Bernstein |
Plant | Jamie Bernstein, Alexander Bernstein, Nina Bernstein |
Actores o Gosta Rica oedd Felicia Montealegre (ganwyd Felicia María Cohn Montealegre, hefyd Felicia Montealegre Bernstein; 6 Chwefror 1922 – 16 Mehefin 1978).
Roedd Montealegre yn enwog am ei pherfformiadau mewn dramâu teledu ac mewn rolau theatraidd. Priododd yr arweinydd Americanaidd Leonard Bernstein ym 1951. [1]
Cafodd Montealegre ei geni yn San José, Costa Rica, yn ferch i Clemencia Cristina Montealegre Carazo, [2]; roedd ei thad, Roy Elwood Cohn, [3] yn weithredwr mwyngloddio o'r Unol Daleithiau wedi'i leoli yn Costa Rica. Roedd gan Felicia ddwy chwaer, Nancy Alessandri a Madeline Lecaros. [4]
Symudodd Felicia i Tsili fel plentyn. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Lleianod Ffrainc. Cafodd ei magu yn Gatholig ac yn ddiweddarach troswyd i Iddewiaeth cyn priodi y cyfansoddwr Leonard Bernstein ym 1951.[5]
Ym 1963, daeth Montealegre yn gadeirydd cyntaf Adran Merched Undeb Rhyddid Sifil Efrog Newydd, lle canolbwyntiodd ei hymdrechion ar raglenni addysgol a digwyddiadau codi arian. [6] Roedd hi'n ymgyrchydd dros heddwch.
Bu farw Montealegre o ganser y fron a'r hysgyfaint yn East Hampton, Efrog Newydd, yn 56 oed.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "New York Philharmonic, 1958 Apr 24, 25, 27". New York Philharmonic Shelby White & Leon Levy Digital Archives. April 1958. Cyrchwyd 1 Mawrth 2023.
- ↑ "FamilySearch.org". ancestors.familysearch.org. Cyrchwyd 1 Mawrth 2023.
- ↑ "Roy Cohn". geni_family_tree (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mawrth 2023.
- ↑ Robert McG. Thomas Jr. (17 Mehefin 1978). "Felicia Montealegre C. Bernstein, Actress, Composer's Wife, Dead". The New York Times (yn Saesneg). t. 24. Cyrchwyd 12 Hydref 2023.
- ↑ Secrest, Meryle (1994). Leonard Bernstein – A Life (yn Saesneg). Alfred A. Knopf. ISBN 0-679-40731-6.
- ↑ "There's Glamour in the Bernstein Name, 10 Jul 1963". St. Louis Post-Dispatch (yn Saesneg). t. 44. Cyrchwyd 20 Medi 2023 – drwy Newspapers.com.
- ↑ Bernstein, Jamie. Famous Father Girl. Harper. ISBN 9780062641373.