Evan Roberts (rygbi)

Oddi ar Wicipedia
Evan Roberts
Ganwyd19 Medi 1861 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1927 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Evan Roberts (19 Medi 186116 Hydref 1927) [1] yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol o Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli a rygbi rhyngwladol i Gymru.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Roberts yn Llanelli, yn blentyn i Evan Roberts, glöwr, ac Elizabeth (née Treharne) ei wraig.[3] Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth yn y gwaith tunplat.

Ym 1886 priododd Ann Evans fu iddynt 11 o blant, 3 mab a 7 merch.

Tu allan i'r byd rygbi bu Roberts yn gwasanaethu fel cynghorydd y Blaid Lafur ar Gyngor Bwrdeistref Llanelli, yn aelod o bwyllgor Ysbyty Llanelli, yn sefydlydd ac arweinydd Cymdeithas Gristionogol y Gwŷr Ifanc (YMCA).[4] Roedd yn swyddog yn Urdd Anrhydeddus Alfred ac Urdd y Gwladgarwyr Unedig, ac roedd yn aelod amlwg a gweithgar o Gapel Moriah y Bedyddwyr. [5]

Bu farw yn ei gartref yn Glanymor Place, Llanelli yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Moriah.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Dewiswyd Roberts i chwarae i Gymru mewn dwy gêm rygbi'r undeb ryngwladol, y ddwy wrth chwarae rygbi clwb i Lanelli. Roedd ei gap cyntaf mewn gêm yn erbyn Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886. Aeth Roberts i mewn i'r pac gyda thri chap newydd arall, ac yn gefnwr, ei gyd aelod o dîm Llanelli, Harry Bowen. Collodd Cymru’r ornest o drwch y blewyn, a phan arbrofodd tîm Cymru gyda’r pedwar tri chwarter yn y gêm nesaf, yn erbyn yr Alban, roedd Roberts yn un o’r blaenwyr a ollyngwyd o’r pac. Chwaraeodd Roberts un gêm arall i Gymru, gêm olaf Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1887, yn erbyn Iwerddon. Roedd Cymru wedi gollwng y system pedwar trichwarterwr ar gyfer Pencampwriaeth 1887, a daethpwyd â Roberts i mewn i gymryd lle Bob Gould. Er i Iwerddon sgorio tri chais a Chymru dim ond un, aeth y fuddugoliaeth i Gymru am gicio gôl adlam. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, ni ddewiswyd Roberts i gynrychioli ei wlad eto.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru[6]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evan Roberts player profile Scrum.com
  2. "South Wales Football Players - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-04-21. Cyrchwyd 2021-05-14.
  3. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad Llanelli 1871 RG10/5468; Ffolio: 81; tud: 2
  4. Llanelley Ex-Councillor and Footballer Western Mail 20 Hydref 1927, tudalen 6
  5. Mr Evan Roberts Llanelley. Western Mail 18 Hydref 1927 tudalen 10
  6. Smith (1980), pg 471.