EuroMillions

Oddi ar Wicipedia
Y gwledydd sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth EuroMillions:
Coch - gwledydd gwreiddiol (Chwefror 2004); gwledydd eraill (Hydref 2004).
Tocynnau chwarae EuroMillions

Mae EuroMillions yn loteri ryngwladol lle mae'n rhaid dewis 7 rhif cywir, sef pum prif rif arferol a dwy seren lwcus i ennill y brif wobr[1]. Fe'i lansiwyd ar 7 Chwefror 2004 gan Française des Jeux (Ffrainc), Loterías y Apuestas del Estado (Sbaen) a Camelot (y Deyrnas Unedig). Cynhaliwyd y gêm gyntaf ar ddydd Gwener 13 Chwefror 2004 ym Mharis.

Yn wreiddiol, dim ond cwmnïau loteri'r DU, Ffrainc a Sbaen a gymerodd ran, gyda chwmnïau loteri Awstria, Gwlad Belg, Yr Iwerddon, Lwcsembwrg, Portiwgal a'r Swistir yn ymuno ar 8 Hydref 2004. Cynhelir y gemau bob nos Fawrth a nos Wener am 20:45 CET ym Mharis[2]. Mae tocyn EuroMillions safonol yn costio € 2.50, £ 2.50 neu CHF3.50 y llinell. Cynyddodd cost chwarae yn y DU o £ 1.50 i £ 2.00 y llinell ar 7 Tachwedd 2009, oherwydd cyfuniad o gyfradd gyfnewid yr ewro / a'r bunt, a mynediad awtomatig i Millionaire Raffle unigryw'r DU. O 24 Medi 2016 cynyddodd y gost fesul llinell o £ 2.00 i £ 2.50 yn y DU.

O fis Medi 24, 2016 newidiodd nifer y sêr lwcus gellir dewis o bwll o 11 rhif i bwll o 12 rhif. Trwy'r newid gostwngwyd y siawns o ennill y brif wobr o 1: 117miliwn i 1: 140miliwn.

Strwythyr enillion[golygu | golygu cod]

Prif
rhifau
Sêr
lwcus
Siawns o ennill % o'r pot gwobr Enillion disgwyliedig (€) Enillion disgwyliedig (£)[3]
Rhanrif %
2 0 1 mewn 22 4.57% 18.25% €4 £3.30
2 1 1 mewn 49 2.03% 14.85% €8 £6.00
1 2 1 mewn 188 0.53% 4.95% €10 £7.60
3 0 1 mewn 314 0.32% 3.50% €12 £9.00
3 1 1 mewn 706 0.14% 1.85% €14 £10.70
2 2 1 mewn 985 0.10% 1.75% €19 £14.20
4 0 1 mewn 13,811 0.0072% 0.38% €58 £43.30
3 2 1 mewn 14,125 0.0071% 0.67% €104 £78.00
4 1 1 mewn 31,075 0.0032% 0.48% €164 £123.00
4 2 1 mewn 621,503 0.00016% 0.45% €3,076 £2,307.30
5 0 1 mewn 3,107,515 0.000032% 0.92% €31,448 £23,586.00
5 1 1 mewn 6,991,908 0.000014% 3.95% €303,798 £227,848.80
5 2 1 mewn 139,838,160 0.00000072% 43.2% neu 27% Jacpot Jacpot
Cronfa Bwster 4.8% neu 21%
cyfartaledd cyffredinol 1 mewn 13 7.71% 100% €14 £10.70

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. What is EuroMillions? adalwyd 29 Gorffennaf 2018
  2. Cytundeb Rhyngwladol y Gêm (yn Ffrangeg) adalwyd 29 Gorffennaf 2018
  3. "Players' Guide to EuroMillions". National Lottery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Medi 2012. Cyrchwyd 22 Medi 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)