Effros

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Euphrasia)
Effros
Effros blodau mawr (Euphrasia rostkoviana)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Lamiales
Teulu: Orobanchaceae
Llwyth: Rhinantheae
Genws: Euphrasia
L.
Rhywogaethau

Tua 450, gan gynnwys:

Genws o tua 450 rhywogaeth o blanhigion blodeuol yw Effros neu Euphrasia. Mae'n perthyn i deulu'r gorfanadl (Orobanchaceae). Maen nhw'n lled-barasitig ar laswelltau a phlanhigion eraill. Daw'r enw Saesneg, eyebright, o'r gred draddodiadol y gallant wella anhwylderau'r llygaid. Mae enwau Cymraeg eraill yn cynnwys torfagl, llygaid Crist a gloywlys.[1] Mae 21 rhywogaeth a llawer o gymysgrywiau i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[2].

Ceir hyd i lawer o rywogaethau mewn dolydd alpaidd neu is-alpaidd, lle mae eira yn gyffredin. Mae blodau Effros yn tyfu ar ben eithaf y planhigyn, ac mae ganddynt gymesuredd dwyochrog gyda phetal isaf siap gwefus. Piws, fioled a gwyn yw'r lliwiau mwyaf cyffredin. Mae gan rhai rhywogaethau farciau melyn ar y betal isaf, ac mae'r marciau yma yn fodd o ddenu peillwyr.

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Mae perthnasau esblygiadol y llwyth Rhinantheae wedi eu hastudio gan ddefnyddio nodweddion moleciwlaidd.[3][4] Mae Euphrasia yn perthyn i'r Rhinantheae craidd ac mae'n chwaer-gytras i'r genera Odontites, Bellardia, Tozzia a Hedbergia.

Cladogram: Coeden ffylogenetig lefel genws o'r llwyth Rhinantheae wedi ei selio ar nodweddion moleciwlaidd. (ITS, intron rps16 a rhanbarth trnK).[3][4]
  Rhinantheae  

   Melampyrum  





   Rhynchocorys  




   Lathraea



   Rhinanthus




  Rhinantheae craidd  

   Bartsia sensu stricto (Bartsia alpina)




   Euphrasia




   Tozzia



   Hedbergia (gan gynnwys Bartsia decurva a B. longiflora)




   Bellardia (gan gynnwys Parentucellia
  a Bartsia canescens + B. mutica)



   Odontites sensu lato
  (gan gynnwys Bornmuellerantha a Bartsiella)








Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  GPC Ar Lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (2014). Adalwyd ar 25 Mehefin 2018.
  2. Metherell, C; a Rumsey, FJ (2018). Eyebrights (Euphrasia) of the UK and Ireland. Bryste: Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon. ISBN 978-0-90-115853-6
  3. 3.0 3.1 Těšitel, Jakub; Říha, Pavel; Svobodová, Šárka; Malinová, Tamara; Štech, Milan (2010-10-28). "Phylogeny, Life History Evolution and Biogeography of the Rhinanthoid Orobanchaceae" (yn en). Folia Geobotanica 45 (4): 347–367. doi:10.1007/s12224-010-9089-y. ISSN 1211-9520. https://link.springer.com/article/10.1007/s12224-010-9089-y.
  4. 4.0 4.1 Scheunert, Agnes; Fleischmann, Andreas; Olano-Marín, Catalina; Bräuchler, Christian; Heubl, Günther (2012-12-14). "Phylogeny of tribe Rhinantheae (Orobanchaceae) with a focus on biogeography, cytology and re-examination of generic concepts". Taxon 61 (6): 1269–1285. http://www.ingentaconnect.com/contentone/iapt/tax/2012/00000061/00000006/art00008. Adalwyd 2018-06-25.