Effros

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Effros
Effros blodau mawr (Euphrasia rostkoviana)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Lamiales
Teulu: Orobanchaceae
Llwyth: Rhinantheae
Genws: Euphrasia
L.
Rhywogaethau

Tua 450, gan gynnwys:

Genws o tua 450 rhywogaeth o blanhigion blodeuol yw Effros neu Euphrasia. Mae'n perthyn i deulu'r gorfanadl (Orobanchaceae). Maen nhw'n lled-barasitig ar laswelltau a phlanhigion eraill. Daw'r enw Saesneg, eyebright, o'r gred draddodiadol y gallant wella anhwylderau'r llygaid. Mae enwau Cymraeg eraill yn cynnwys torfagl, llygaid Crist a gloywlys.[1] Mae 21 rhywogaeth a llawer o gymysgrywiau i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[2].

Ceir hyd i lawer o rywogaethau mewn dolydd alpaidd neu is-alpaidd, lle mae eira yn gyffredin. Mae blodau Effros yn tyfu ar ben eithaf y planhigyn, ac mae ganddynt gymesuredd dwyochrog gyda phetal isaf siap gwefus. Piws, fioled a gwyn yw'r lliwiau mwyaf cyffredin. Mae gan rhai rhywogaethau farciau melyn ar y betal isaf, ac mae'r marciau yma yn fodd o ddenu peillwyr.

Esblygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae perthnasau esblygiadol y llwyth Rhinantheae wedi eu hastudio gan ddefnyddio nodweddion moleciwlaidd.[3][4] Mae Euphrasia yn perthyn i'r Rhinantheae craidd ac mae'n chwaer-gytras i'r genera Odontites, Bellardia, Tozzia a Hedbergia.

Cladogram: Coeden ffylogenetig lefel genws o'r llwyth Rhinantheae wedi ei selio ar nodweddion moleciwlaidd. (ITS, intron rps16 a rhanbarth trnK).[3][4]
  Rhinantheae  

   Melampyrum  





   Rhynchocorys  




   Lathraea



   Rhinanthus




  Rhinantheae craidd  

   Bartsia sensu stricto (Bartsia alpina)




   Euphrasia




   Tozzia



   Hedbergia (gan gynnwys Bartsia decurva a B. longiflora)




   Bellardia (gan gynnwys Parentucellia
  a Bartsia canescens + B. mutica)



   Odontites sensu lato
  (gan gynnwys Bornmuellerantha a Bartsiella)








Rhywogaethau ym Mhrydain ac Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae 22 rhywogaeth o Effros i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Ceir hefyd lawer iawn o gymysgrywiau.[2]

  • Rhywogaeth Euphrasia L.
    • Adran Euphrasia
      • Is-adran Euphrasia
        1. E. rostkoviana Hayne (Effros blodau mawr)
        2. E. montana Jord.
          • E. montana × rostkoviana
        3. E. anglica Pugsley (Effros Lloegr)
          • E. anglica × rostkoviana
          • E. anglica × arctica
          • E. anglica × tetraquetra
          • E. anglica × nemorosa
          • E. anglica × confusa
          • E. anglica × micrantha
        4. E. rivularis Pugsley (Effros yr Wyddfa)
          • E. rivularis × rostkoviana
          • E. rivularis × scottica
        5. E. vigursii Davey (Effros Cernyw)
        6. E. arctica Lange ex Rostrup (Effros â gwallt byr neu Effros yr arctig)
          • E. arctica × rostkoviana
          • E. arctica × montana
          • E. arctica × tetraquetra
          • E. arctica × nemorosa
          • E. arctica × pseudokerneri
          • E. arctica × confusa
          • E. arctica × frigida
          • E. arctica × foulaensis
          • E. arctica × ostenfeldii
          • E. arctica × marshallii
          • E. arctica × campbelliae
          • E. arctica × micrantha (E. × difformis F. Towns.)
          • E. arctica × scottica (E. × venusta F. Towns.)
          • E. arctica × heslop-harrisonii
          • E. arctica × salisburgensis
        7. E. tetraquetra (Bréb) Arrond. (Effros y gorllewin, Torfagl llydanddail gwyn neu Torfagl ar graig y don)
          • E. tetraquetra × vigursii
        8. E. nemorosa (Pers.) Wallr. (Llygad siriol cyffredin)
          • E. nemorosa × rostkoviana
          • E. nemorosa × tetraquetra
          • E. nemorosa × pseudokerneri
          • E. nemorosa × stricta (E. × haussknechtii Wettst.)
          • E. nemorosa × ostenfeldii
          • E. nemorosa × scottica
          • E. nemorosa × salisburgensis
        9. E. pseudokerneri Pugsley (Effros y calch)
          • E. pesudokerneri × tetraquetra
        10. E. stricta D. Wolff ex J.F.Lehm. (Effros unionsyth)
        11. E. confusa Pugsley (Effros bach gliniog)
          • E. confusa × rostkoviana
          • E. confusa × montana
          • E. confusa × tetraquetra
          • E. confusa × nemorosa
          • E. confusa × pseudokerneri
          • E. confusa × frigida
          • E. confusa × foulaensis (E. × atroviolacea Druce & Lumb)
          • E. confusa × cambrica
          • E. confusa × ostenfeldii
          • E. confusa × marshallii
          • E. confusa × micrantha
          • E. confusa × scottica
        12. E. frigida Pugsley (Effros y mynydd)
          • E. frigida × ostenfeldii (E. × eurycarpa Pugsley)
          • E. frigida × micrantha
          • E. frigida × scottica
        13. E. foulaensis F. Towns. ex Wettst (Effros Foula)
          • E. foulaensis × nemorosa
          • E. foulaensis × ostenfeldii
          • E. foulaensis × marshallii
          • E. foulaensis × micrantha
          • E. foulaensis × scottica
        14. E. cambrica Pugsley (Effros Cymreig)
          • E. cambrica × ostenfeldii
          • E. cambrica × scottica
        15. E. ostenfeldii (Pugsley) Yeo (Effros â dail blewog neu Effros Ostenfeld)
          • E. ostenfeldii × scottica
        16. E. marshallii Pugsley (Effros Marshall)
          • E. marshallii × nemorosa
          • E. marshallii × micrantha
          • E. marshallii × scottica
        17. E. rotundifolia Pugsley (Effros deilgrwn)
        18. E. campbelliae Pugsley (Effros Campbell)
          • E. campbelliae × nemorosa
          • E. campbelliae × confusa
          • E. campbelliae × foulaensis
          • E. campbelliae × micrantha
        19. E. micrantha Rchb. (Effros mân-flodeuog neu Gloywlys eiddil cyffredin)
          • E. micrantha × rostkoviana
          • E. micrantha × tetraquetra
          • E. micrantha × nemorosa (E. × areschougii Wettst.)
          • E. micrantha × ostenfeldii (E. × rhumica Pugsley)
          • E. micrantha × scottica (E. × electa F. Towns.)
          • E. micrantha × salisburgensis
        20. E. scottica Wettst. (Effros eiddil y fawnog neu Effros eiddil y fignen fynyddig)
        21. E. heslop-harrisonii Pugsley (Effros Heslop-Harrison)
          • E. heslop-harrisonii × nemorosa
      • Is-adran Angustifolia (Wettst.) Jörg.
        1. E. salisburgensis Funck ex Hoppe (Effros Iwerddon)
          • E. salisburgensis × tetraquetra

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  GPC Ar Lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (2014). Adalwyd ar 25 Mehefin 2018.
  2. 2.0 2.1 Metherell, C; a Rumsey, FJ (2018). Eyebrights (Euphrasia) of the UK and Ireland. Bryste: Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon. ISBN 978-0-90-115853-6
  3. 3.0 3.1 Těšitel, Jakub; Říha, Pavel; Svobodová, Šárka; Malinová, Tamara; Štech, Milan (2010-10-28). "Phylogeny, Life History Evolution and Biogeography of the Rhinanthoid Orobanchaceae" (yn en). Folia Geobotanica 45 (4): 347–367. doi:10.1007/s12224-010-9089-y. ISSN 1211-9520. https://link.springer.com/article/10.1007/s12224-010-9089-y.
  4. 4.0 4.1 Scheunert, Agnes; Fleischmann, Andreas; Olano-Marín, Catalina; Bräuchler, Christian; Heubl, Günther (2012-12-14). "Phylogeny of tribe Rhinantheae (Orobanchaceae) with a focus on biogeography, cytology and re-examination of generic concepts". Taxon 61 (6): 1269–1285. http://www.ingentaconnect.com/contentone/iapt/tax/2012/00000061/00000006/art00008.