Ethel Smyth

Oddi ar Wicipedia
Ethel Smyth
GanwydEthel Mary Smyth Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1858 Edit this on Wikidata
Llundain, Sidcup Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Woking Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cerdd a Theatr Leipzig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, libretydd, arweinydd, hunangofiannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, nyrs Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDer Wald, The March of the Women, The Boatswain's Mate, The Prison, Mass in D, Fête Galante Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
TadJohn Hall Smyth Edit this on Wikidata
MamEmma Struth Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ethelsmyth.org Edit this on Wikidata

Cyfansoddwraig Seisnig oedd y Fonesig Ethel Smyth (23 Ebrill 18588 Mai 1944).

Cafodd ei geni yn Sidcup, Caint. Roedd ei thad, uwchfrigadydd yn y Corfflu Brenhinol y Magnelau, yn gwrthwynebu ei gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Serch hynny, mae hi'n astudio cyfansoddi gyda Carl Reinecke yn yr Hochschule für Musik, Leipzig (1877), cyn cymryd gwersi preifat gyda Heinrich von Herzogenberg. Yn Leipzig cyfarfu â Brahms, Dvořák, Grieg, Tchaikovsky a Clara Schumann.

Mae ei gyfansoddiadau yn cynnwys caneuon, cerddoriaeth siambr, gweithiau i'r piano, gweithiau gerddorfaol, concerti, gweithiau corawl, ac operâu. Mae ei opera The Wreckers (1906) yn arbennig o bwysig yn hanes yr opera Seisnig.

Ym 1910 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union, WSPU), ac am ddwy flynedd ymroddodd ei hun i gweithio dros yr achos. Roedd ei chân "The March of the Women" (Ymdeithgan y Merched) (1911) yn cael ei defnyddio fel anthem mudiad pleidlais i fenywod. Ym 1912 cafodd ei harestio am gymryd rhan yn yr ymgyrch WSPU o dorri ffenestri; cafodd ei dedfrydu i ddau fis yng Ngharchar Holloway.

Ar ôl 1913 dechreuodd i golli ei chlyw, ac yn ei blynyddoedd olaf cyfansoddodd llai. Er hynny, trodd at ysgrifennu, a rhwng 1919 a 1940 cyhoeddodd deg llyfr, hunangofiannol yn bennaf.

I gydnabod ei gwaith fel cyfansoddwraig ac awdures, urddwyd Smyth yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) ym 1922. Bu farw yn Woking, Surrey, ym 1944.