Edvard Grieg
| Edvard Grieg | |
|---|---|
Evard Grieg yn 1891. Portread mewn olew gan ei gyd-Norwywr Eilif Peterssen. | |
| Ganwyd | Edvard Hagerup Grieg 15 Mehefin 1843 Bergen |
| Bu farw | 4 Medi 1907 Bergen |
| Dinasyddiaeth | Norwy |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd |
| Adnabyddus am | Piano Concerto, Holberg Suite, In the Hall of the Mountain King, Peer Gynt Suites, Peer Gynt |
| Arddull | cerddoriaeth glasurol |
| Tad | Alexander Grieg |
| Mam | Gesine Hagerup |
| Priod | Nina Grieg |
| Plant | Alexandra Grieg |
| Gwobr/au | Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav |
| llofnod | |
Cyfansoddwr a phianydd o Norwy oedd Edvard Hagerup Grieg [ˈɛdʋɑʁd ˈhɑːgəʁʉp ˈgʁɪg] (15 Mehefin 1843 - 4 Medi 1907).
Caiff ei adnabod yn bennaf am ei Goncerto Piano mewn A leiaf ac am ddarnau achlysurol (incidental music) megis Peer Gynt a gyfansoddodd ar gyfer drama Henrik Ibsen; (sy'n cynnwys y darn Morning Mood a In the Hall of the Mountain King). Caiff ei gofio hefyd am ei weithiau bach Lyric Pieces.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Edvard Hagerup Grieg yn Bergen, Norwy, ar 15 Mehefin 1843. Marchnatwr oedd ei dad Alexander Grieg (1806–1875), yn Bergen, ac enw'i fam oedd Gesine Judithe Hagerup (1814–1875), a oedd yn athrawes gerdd ac yn ferch i Edvard Hagerup.[2][3] Sillafwyd y cyfenw'n wreiddiol yn "Greig", enw a ellir ei olrhain i'r Alban. Roedd hen-daid Greig yn filwr ym Mrwydr Culloden ym 1746 ond a deithiodd lawer tan iddo ymsefydlu yn Norwy ym 1770. Cafodd ei ysbrydoli gan cerddoriaeth Felix Mendelssohn a Clara Schumann.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edvard Grieg (Store norske leksikon)
- ↑ Benestad, Finn. "Edvard Grieg". In Helle, Knut (gol.). Norsk biografisk leksikon (yn Norwyeg). Oslo: Kunnskapsforlaget. Cyrchwyd 10 Medi 2011.
- ↑ Benestad; Schjelderup-Ebbe (1990) [1980]. pp. 25–28
- ↑ "Adnoddau". resources-legacy.wjec.co.uk. Cyrchwyd 23 Mehefin 2025.