Equus (drama)
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Peter Shaffer |
| Iaith | Saesneg |
| Prif bwnc | ceffyl |
| Dyddiad y perff. 1af | 1973 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/015q_m |

- Erthygl am y ddrama yw hon. Am y genws Equus, gan gynnwys y ceffyl, gweler yma.
Drama a ysgrifennwyd ym 1973 gan Peter Shaffer yw Equus. Mae'r ddrama'n adrodd hanes seiciatrydd sy'n ceisio trin dyn ifanc sydd â diddordeb crefyddol/rhywiol patholegol gyda cheffylau.
Cafodd Shaffer ei ysbrydoli i ysgrifennu Equus pan glywodd am drosedd lle'r oedd person 17 oed wedi dallu chwech o geffylau mewn tref fechan ger Llundain. Bwrodd ati i ysgrifennu hanes dychmygol o'r hyn a allai fod wedi achosi'r fath achos, heb iddo wybod unrhyw ffeithiau neu wybodaeth pellach am y drosedd. Mae'r ddrama ei hun yn rhyw fath o stori dditectif, wrth i seiciatrydd y bachgen, Dr. Martin Dysart, geisio deall gweithredodd y bachgen tra'n brwydro gyda'i syniad ei hun o hunan-werth.