Encarnacion Alzona
Encarnacion Alzona | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1895 Biñan |
Bu farw | 13 Mawrth 2001 Manila |
Dinasyddiaeth | Y Philipinau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, swffragét, academydd |
Adnabyddus am | A History of Education in the Philippines 1565–1930 |
Gwobr/au | National Scientist of the Philippines |
Hanesydd arloesol o'r Philipinau oedd Encarnacion Alzona (23 Mawrth 1895 - 13 Mawrth 2001) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét. Hi oedd y fenyw Ffilipinaidd gyntaf i ennill Ph.D., rhoddwyd iddi reng a theitl Gwyddonydd Cenedlaethol Philippines ym 1985.
Fe'i ganed yn Binan a oedd yr adeg honno yn Capitanía General de Filipinas ac a hawliwyd yn rhan o Ymerodraeth Sbaen; bu farw yn Manila, prifddinas y Philipinau a'i chladdu yn Libingan ng mga Bayani ('Caer yr Arwyr'), Fort Bonifacio, hefyd yn Manila. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard, Prifysgol Columbia a Phrifysgol y Philipinau.[1][2]
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Fe’i magwyd yn nhalaith Tayabas. Roedd ei thad yn farnwr ac yn berthynas bell i'r cenedlaetholwr a'r polymath Jose Rizal.[3]
Roedd ei rhieni'n ddarllenwyr mawr, a oedd yn meithrin ei thueddiadau academaidd. Enillodd radd mewn hanes o Brifysgol y Philipinau ym Manila ym 1917, a gradd meistr y flwyddyn ganlynol o'r un brifysgol. Arolwg hanesyddol oedd ei thraethodau ymchwil - ar addysg o fewn ysgolion i fenywod yn Ynysoedd y Philipinau, thema a ysgogodd ynddi'n ddiweddarach ei gwaith fel swffragét.[4]
Dilynodd Alzona astudiaethau pellach yn Unol Daleithiau America fel ysgolhaig, astudiaethau a ariannwyd gan lywodraeth America. Enillodd radd meistr arall mewn hanes o Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard ym 1920, a Ph.D. o Brifysgol Columbia ym 1923.[5]
Dychwelodd Alzona i Ynysoedd y Philipinau ym 1923 ac ymunodd â chyfadran Hanes, Prifysgol y Philipinau ar gampws Manila, a symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol y Philipinau yn Diliman.
Etholfraint
[golygu | golygu cod]Hyd yn oed wrth i ferched America ennill yr hawl i bleidleisio ym 1920, ni roddwyd yr un hawl i fenywod yn y Philipinau, a oedd ar yr adeg honno yn wladfa Americanaidd. Mor gynnar â 1919, siaradodd Alzona o blaid rhoi’r hawl i bleidlais i ferched Ffilipinaidd, a thros etholfrait mewn erthygl a gyhoeddodd yn y Philippine Review.[6]
Wedi'r Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Dewisodd Alzona aros ym Manila trwy gydol goresgyniad Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n rhan o'r mudiad herwfilwrol ('gerila') yn erbyn y Japaneaid.[7]
Ar ôl y rhyfel, penodwyd Alzona gan yr Arlywydd Manuel Roxas yn aelod o ddirprwyaeth Philippine i UNESCO. Gwasanaethodd yn y ddirprwyaeth tan 1949, ac fe’i hetholwyd yn gadeirydd Is-bwyllgor Gwyddor Gymdeithasol, Athroniaeth a’r Dyniaethau ym 1946.[7]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: National Scientist of the Philippines (1985) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: "Encarnacion Alzona". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Encarnacion Alzona". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 242
- ↑ Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 237
- ↑ Xiaojian Zhao; Edward J.W. Park Ph.D. (26 Tachwedd 2013). Asian Americans: An Encyclopedia of Social, Cultural, Economic, and Political History [3 volumes]: An Encyclopedia of Social, Cultural, Economic, and Political History. ABC-CLIO. t. 426. ISBN 978-1-59884-240-1.
- ↑ Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 239
- ↑ 7.0 7.1 Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 238