Emilia Clarke

Oddi ar Wicipedia
Emilia Clarke
GanwydEmilia Isobel Euphemia Rose Clarke Edit this on Wikidata
23 Hydref 1986 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylBerkshire, Hampstead, Venice Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Canolfan Ddrama Llundain
  • Rye St Antony School
  • St Edward's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGame of Thrones Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Actores Seisnig yw Emilia Isabelle Euphemia Rose Clarke (ganwyd 23 Hydref 1986[1]) Caiff ei hadnabod fel Daenerys Targaryen, rôl mwyaf ei gyrfa hyd yma, yn y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones (HBO). Hyd at 2016 roedd wedi cael tri enwebiad 'Primetime Emmy Award am chwarae'r rhan yma: yn 2013, 2015 a hefyd yn 2016.

Yn Broadway ym Mawrth 2013 yr ymddangosodd yn gyntaf: yn Breakfast at Tiffany's fel y cymeriad Holly Golightly. Yn 2015, serenodd fel Sarah Connor yn Terminator Genisys ac yn 2016 yn y ffilm rhamant Me Before You, a wnaeth incwm o $150 miliwn yn fyd-eang.

Yn 2015 enwyd hi gan y cylchgrawn Esquire fel y Sexiest Woman Alive.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Actiodd Clarke mewn dwy ddrama tra roedd yn Ysgol Uwchradd St Edward, Rhydychen, a deg yn y Coleg yng Nghanolfan Ddrama Llundain yn 2009: Company of Angels a Sense. Yn bu'n rhan o ddwy hysbyseb yr un flwyddyn, ar gyfer y Samaritans.[3] Serenodd mewn ffilm bychan i fyfyriwr o Brifysgol Llundain hefyd.[4] Actiodd yn broffesiynol yn y gyfres sebon Doctors yn 2009 a Savannah yn Triassic Attack y flwyddyn wedyn. Cafodd ei disgrifio gan y cylchgrawn Screen International fel "un o ser y dyfodol" ("UK Stars of Tomorrow").[5]

Clarke fel Daenerys Targaryen ar Game of Thrones

Yn 2010 cafodd y rhan a'i gwnaeth yn seren byd-enwog, sef fel Daenerys Targaryen yn y ffantasi Canol Oesol HBO: Game of Thrones, a oedd wedi'i sefydlu ar gyfres o lyfrau o'r enw A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin. Mewn cyfweliad dywedodd Clarke iddi wneud funky chicken a dawns robot yn y cyfweliad.[6]

Ffilmograffi[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2012 Spike Island Sally Harris
2012 Shackled Malu Ffilm cwta
2013 Dom Hemingway Evelyn Hemingway
2015 Terminator Genisys Sarah Connor
2016 Me Before You Louisa (Lou) Clark
2016 Voice from the Stone Verena
2017 Above Suspicion Ffilmio

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Me Before You on Twitter".
  2. "The Gorgeous Balance of Emilia Clarke, Sexiest Woman Alive 2015". Esquire. 13 Hydref 2015. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2015.
  3. Lisa's Story (YouTube). Samaritans. 2009-11-16.
  4. "Video of Emilia Clarke in Student Movie". sitmovie.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-24. Cyrchwyd 2016-07-15.
  5. "UK Stars of Tomorrow 2010". Screen Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-15. Cyrchwyd 26 April 2013.
  6. Kevin, Patrick (20 Mawrth 2014). "Did the Funky Chicken land Emilia Clarke her 'Game of Thrones' role?". Los Angeles Times. Cyrchwyd 5 Mai 2014.