Ellen ap Gwynn

Oddi ar Wicipedia
Ellen ap Gwynn
Ganwyd1 Gorffennaf 1946 Edit this on Wikidata
Yr Alban Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynghorydd Edit this on Wikidata

Mae Ellen ap Gwynn (ganwyd 1 Gorffennaf 1946) yn Gynghorydd Plaid Cymru dros Ceulanmaesmawr ers 1999 ac yn Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ers 2012. Mae Ellen yn gyn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru a chyn Gadeirydd Pwyllgor Llywio’r Gynhadledd ac fe safodd ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 2005. Mae’n gynghorydd sir a chymuned ers 1999 ac yn Arweinydd Grwp Cynghorwyr Ceredigion ers 2006. Cafodd ei hethol yn Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn 2012 a’i hail ethol i’r un swydd ym mis Mai 2016 yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganed Ellen ap Gwynn yn yr Alban ond fe’i maged ym Morth-y-gest ger Porthmadog lle mynychodd Ysgol Eifionydd cyn raddio o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’n cynrychioli’r Cyngor ar CLlLC ac yn dal portffolio’r Gymraeg ac yn ddirprwy llefarydd Addysg. Bu’n llefarydd Cydraddoldeb a Heneiddio’n Dda rhwng 2012 a 2016. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd ERW, cyn consortiwm Gwella Addysg Canol a Gorllewin Cymru. Mae hi’n Gadeirydd Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth ac wedi arwain ar y cais am Fargen Dwf ac i sefydlu Partneriaeth Sgiliau i’r Canolbarth. Mae’n cadeirio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu Ceredigion, yn Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau Cymdeithasol, yn Gadeirydd Partneriaeth Blynyddoedd Cynnar Ceredigion ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Awdit.

Bu’n gweithio’n broffesiynol ym maes gweinyddu’r celfyddydau, yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch bu hefyd yn Gyfarwyddwr CYD ac yn Reolwr Cyffredinol ar Radio Ceredigion.

Bu’n Gadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin a WAPA ac yn Ysgrifennydd cyntaf Llywodraethwyr Cymru. Yn gyn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru bu’n arwain ar sefydlu Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’n cyn aelod o’r Bwrdd. Bu’n Gadeirydd Hyfforddiant Celfyddydau Cymru.

Mae’n gyn aelod o Fwrdd eco-dyfi, cyn Is-gadeirydd Partneriaeth y Biosffer ac yn gyn aelod o Fwrdd Tai Ceredigion. Mae’n gyn aelod o Gyngor a bellach yn aelod o Lys Prifysgol Aberystwyth a bu’n Lywodraethwyr Coleg Ceredigion. Mae’n parhau yn Lywodraethwr o ysgol Tal-y-bont. Mae’n briod a Iolo ac mae ganddynt tri o blant a phedwar o wyrion.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Ellen yn Gadeirydd Plaid Cymru am gyfnod a safodd fel ymgeisydd San Steffan ar gyfer Maldwyn yn 2005.

Daeth Ellen yn Arweinydd cyntaf Plaid Cymru i arwain Cyngor Sir Ceredigion yn 2012, yn dilyn cynnydd yn y nifer o gynghorwyr Plaid Cymru i ddal 19 allan o 42 sedd yn y sir[1]. Ers etholiad 2016 maent yn dal 20 sedd.

Roedd Ellen yn rhan o ymgyrch drawsbleidiol i gynyddu'r nifer o ferched sydd yn ymwneud mewn gwleiyddiaeth.[2]

Ar ôl 10 mlynedd yn arwain Cyngor Ceredigion ymddeolodd cyn etholiadau lleol Mai 2022.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]