Elizabeth Goudge

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elizabeth Goudge
Ffugenw Elizabeth Goudge Edit this on Wikidata
Ganwyd Elizabeth de Beauchamp Goudge Edit this on Wikidata
24 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Wells Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Ebrill 1984 Edit this on Wikidata (83 oed)
Rotherfield Peppard Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth Ysgrifennwr, nofelydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The Little White Horse Edit this on Wikidata
Arddull romance novel, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal Carnegie, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Awdures o Loegr oedd Elizabeth Goudge (24 Ebrill 1900 - 1 Ebrill 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdures storiau byrion ac awdur plant. Ei henw llawn oedd Elizabeth de Beauchamp Goudge. Enillodd Fedal Carnegie am lyfrau plant Saesneg, drwy wledydd Prydain ym 1946 ar gyfer The Little White Horse. Roedd yn awdur poblogaidd yn y DU a'r Unol Daleithiau o'r 1930au i'r 1970au. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Little White Horse.

Yn 1993 cafodd un o'i llyfrau ei lên-ladrata gan Indrani Aikath-Gyaltsen, pan gyhoeddodd ail-bobiad ohoni, gan hawlio adolygiadau arbennig o dda gan The New York Times a The Washington Post cyn i'r beirniaid llenyddol ddarganfod ei ffynhonnell - llyfr gan Elizabeth Goudge. Yn 2001 neu 2002, nododd J. K. Rowling mai The Little White Horse oedd un o'i hoff lyfrau ac un o'r ychydig sydd â dylanwad uniongyrchol ar gyfres Harry Potter.[1][2]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Tower House, yng nghanol dinas Wells ar 24 Ebrill 1900 a bu farw yn Rotherfield Peppard. Roedd ei thad, Henry Leighton Goudge, yn is-brifathro'r Coleg Diwinyddol yn Wells a'i mam yn enedigol o Guernsey. Symudodd y teulu i Ely pan gyflogwyd y tad yn brifathro'r Coleg Diwinyddol yno ac yna i Christ Church, Rhydychen pan benodwyd ef yn Athro Athrofa Diwinyddol y Brifysgol. Addysgwyd Elizabeth yn Ysgol Grassendale, Southbourne (1914–18), ac yn yr ysgol gelf yng Ngholeg Prifysgol Reading, ac yna yng Ngholeg Christ Church. Aeth ymlaen i ddysgu dylunio a chrefft yn Ely a Rhydychen. [3][4][5][6]


Roedd llyfr cyntaf Goudge, The Fairies 'Baby and Other Stories (1919), yn fethiant llwyr ac ni chyhoeddodd dim am rai blynyddoedd cyn iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf, Island Magic (1934), a oedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn seiliedig ar straeon Ynysoedd y Sianel, yr oedd wedi clywed, fin nos, gan ei mam, brodor o Guernsey. Roedd Elizabeth ei hun yn ymweld yn rheolaidd â Guernsey pan oedd yn blentyn, fel y dywed yn ei hunangofiant, The Joy of the Snow, a threuliodd sawl haf yno gyda'i thaid a'i nain a'i pherthnasau ar ochr ei mam.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Conversations with J.K. Rowling, Linda Fraser, Scholastic, 2001, ISBN 978-0439314558. p. 24.
  2. "Harry Potter – Harry and me" Archifwyd 5 February 2012 yn y Peiriant Wayback., Lindsay Fraser's interview with J. K. Rowling from The Scotsman, November 2002.
    . Adalwyd Mai 2013.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11905497c; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: http://news.bbc.co.uk/cbbcnews/hi/newsid_4690000/newsid_4690800/4690885.stm. http://www.independent.co.uk/extras/sunday-review/regulars/page-turner-one-goudge-good-two-goudges-great-886966.html. http://www.telegraph.co.uk/education/6127914/What-was-your-favourite-book-as-a-child.html.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  7. Galwedigaeth: http://news.bbc.co.uk/cbbcnews/hi/newsid_4690000/newsid_4690800/4690885.stm.