Eleanor Rathbone

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eleanor Rathbone
Eleanor Rathbone campaigning.jpg
Ganwyd 12 Mai 1872 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Ionawr 1946 Edit this on Wikidata (73 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, ffeminist, awdur ffeithiol, swffragét Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Annibynnwr Edit this on Wikidata
Tad William Rathbone VI Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 - 2 Ionawr 1946) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, awdur ffeithiol a swffragét. Roedd yn Aelod Seneddol annibynnol ac yn ymgyrchydd tymor hir dros lwfans teulu a thros hawliau menywod. Roedd hi'n aelod o deulu nodedig y Rathbone o Lerpwl.

Fe'i ganed yn Llundain a bu farw yn Llundain. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Somerville, Rhydychen. [1][2]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Eleanor Rathbone yn ferch i'r diwygiwr cymdeithasol William Rathbone VI a'i ail wraig, Emily Acheson Lyle. Anogodd ei theulu hi i ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol. Aeth Rathbone i Ysgol Uwchradd Kensington (Ysgol Kensington Prep, bellach), Llundain; ac yn ddiweddarach aeth i Goleg Somerville, Rhydychen, yn erbyn ewyllus ei mam, ond gyda chefnogaeth Lucy Mary Silcox a hyfforddai hi yn y Clasuron (llenyddiaeth sydd wedi goroesi o'r Lladin a'r Groeg).

Roedd ei thad William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[3]

Eleanor Rathbone yn annerch y dorf; 2 Ionawr 1910

Coleg a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl graddio, bu Rathbone yn gweithio ochr yn ochr â’i thad yn ymchwilio i amodau cymdeithasol a diwydiannol yn Lerpwl, nes iddo farw ym 1902. Roedd y ddau yn gwrthwynebu Ail Ryfel y Boer.

Ym 1903 cyhoeddodd Rathbone ei hadroddiad ar ganlyniadau'r "Ymchwiliad Arbennig i amodau Llafur yn Nociau Lerpwl". Ym 1905 cynorthwyodd i sefydlu Ysgol Gwyddor Gymdeithasol ym Mhrifysgol Lerpwl, lle bu'n darlithio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae ei chysylltiad â'r brifysgol yn dal i gael ei gydnabod gan "Adeilad Eleanor Rathbone", a darlithfa a Chadair Cymdeithaseg y brifysgol hefyd yn dwyn ei henw.

Ymgyrchu dros etholfraint[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1897, daeth Rathbone yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Etholfraint Merched Lerpwl gan ganolbwyntiodd ar ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio.[4]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF; enwyd fel: Eleanor Florence Rathbone; dynodwr BnF: 14601351q.
  2. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF; enwyd fel: Eleanor Florence Rathbone; dynodwr BnF: 14601351q.
  3. Rathbone, William (DNB12). (2013, Hydref 3). Yn Wikisource [1] adalwyd 5 Chwefror 2015
  4. Helmond, Marij van (1992). Votes for women : the events on Merseyside 1870-1928. Great Britain: National Museums & Galleries on Merseyside. t. 26. ISBN 090636745X.