El Jadida

Oddi ar Wicipedia
El Jadida
Mathdinas, urban commune of Morocco, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth194,934 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Tacoma, Barcelos, Sidi Bennour, Sète, Sintra, Nabeul, Varennes, Vierzon, Arenzano, Miami Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith El Jadida Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd7.5 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.2342°N 8.5228°W Edit this on Wikidata
Map
Medina El Jadida

Dinas hanesyddol ar arfordir Cefnfor Iwerydd Moroco yw El Jadida (neu El-Jadida). Wedi'i lleoli yn rhanbarth Doukhala-Abda, tua 90 km i'r de o Gasablanca, El Jadida yw porthladd Marrakech a'r cylch. Mae ganddi boblogaeth o tua 150,000 (2001).

Mae El Jadida yn ddinas a sefydlwyd gan y Portiwgaliaid yn 1513 dan yr enw Mazagan. Ceir nifer o adeiladau hanesyddol diddorol yn yr hen ddinas, o gwmpas y gaer sy'n dominyddu'r harbwr; La Cité Portugaise. Cipiwyd y ddinas oddi ar y Portiwgaliaid gan y Swltan Sidi Mohamed ben Abdallah yn 1769. Dinistriodd y Portiwgaliaid furiau'r gaer cyn ddianc ond fe'i hailgodwyd gan y Swltan Moulay Abd ar-Rahman yn 1820.

Bellach mae El Jadida yn ganolfan gwyliau lleol. Y diwydiant pwysicaf yw pysgora a phrosesu sardîns ac mae'r cefn gwlad o gwmpas y ddinas yn ardal amaethyddol lewyrchus. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mae traethau braf El Jadida yn denu miloedd o Forociaid o'r dinasoedd cyfagos yn yr haf.

Ganwyd y llenor Driss Chraïbi yn El Jadida yn 1926.

Gefeilldref[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]