Nabeul

Oddi ar Wicipedia
Nabeul
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth73,128 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Marbella, Montélimar, Seto, El Jadida Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.45139°N 10.73611°E Edit this on Wikidata
Cod post8000 Edit this on Wikidata
Map
Nabeul, canol y dref
Nabeul

Mae Nabeul (Arabeg: نابل‎) yn ddinas yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia a leolir yn ne penrhyn Cap Bon, tua 65 km i'r de-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis.

Nabeul yw prifddinas a chanolfan weinyddol y dalaith o'r un enw. Mae'n fwrdeistref gyda 56,387 o bobl yn byw ynddi. Gyda threfi cyfagos Dar Chaabane, Béni Khiar ac El Maamoura, mae Nabeul yn cynnwys 120,000 o bobl. Os cynhwysir tref dwristaidd Hammamet, mae hi'n ffurfio ardal ddinesig o 185,000 o bobl.

Nabeul yw un o'r trefi pwysicaf sy'n gorwedd ar hyd arfordir hir Gwlff Hammamet. Mae'n enwog yn Nhiwnisia am ei amgylchedd werdd o berllanau a gerddi. Oherwydd ei thraethau braf tywodlyd a'r hinsawdd Môr Canoldir, mae'r ardal yn gyrchfan poblogaidd iawn gan dwristiaid o Ewrop. sy'n heidio i Hammamet a threfi glan môr eraill yn yr haf.

Mae Nabeul yn adnabyddus iawn yn y wlad fel un o brif ganolfannau'r diwydiant crochenwaith.