Egon Ronay
Gwedd
Egon Ronay | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1915 Budapest |
Bu farw | 12 Mehefin 2010 Yattendon |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perchennog bwyty, beirniad bwyd |
Plant | Edina Ronay |
Awdur Hwngaraidd a pherchennog bwyty oedd Egon Ronay (24 Gorffennaf 1915 – 12 Mehefin 2010).[1][2]
Ganwyd yn Budapest. Roedd ei dad yn restaurateur a welodd ei fusnes yn dirywio oblegid y rhyfel. Symudodd yn Hydref 1946 i Lundain lle bu'n rheoli dau dŷ bwyta cyn prynnu'r Marquee ger Harrods gan ganolbwyntio ar fwyd Ffrengig.
Mae'n fwyaf enwog am ei lyfr Egon Ronay's Guide to British Eateries, a werthodd 30,000 o gopiau yn 1957. Gwerthodd hawlfraint ei lyfrau i'r AA yn 1985.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Levy, Paul (14 Mehefin 2010). Egon Ronay: Restaurateur and journalist who fled Hungary to make a lasting impact on British gastronomy. The Independent. Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Barker, Dennis (13 Mehefin 2010). Egon Ronay obituary. The Guardian. Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2013.