Yr Eglwys Gatholig Galdeaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eglwys Gatholig Galdeaidd)

Un o eglwysi Catholig y Dwyrain yw'r Eglwys Gatholig Galdeaidd. Triga'r mwyafrif o'i ddilynwyr yn Irac, Iran, a Libanus.

Gellir olrhain ei hanes i'r eglwysi Nestoraidd yn Irac ac Iran o'r 5g i'r 14g. Sefydlwyd cysylltiad â'r Eglwys Babyddol ym 1551 pan deithiodd y Patriarch Yohannan Sulaqa i Rufain. Unodd yr Eglwys Galdeaidd â'r Eglwys Babyddol ym 1830. Hyd defnyddir, defnyddir litwrgi hynafol y Syriaid Dwyreiniol, ac hynny trwy gyfrwng y Syrieg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Chaldean Catholic Church. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Chwefror 2018.