Eglwys Gadeiriol Nidaros

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol Nidaros
Mathpriodwedd cenedlaethol, cadeirlan Lwtheraidd, church town of Sweden Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Trondheim Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Cyfesurynnau63.4269°N 10.3969°E, 63.42687°N 10.3971°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Oesoedd Canol Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Romanésg, pensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethsafle treftadaeth yn Norwy Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Drindod Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddsebonfaen Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Nidaros Edit this on Wikidata

Un o eglwysi pwysicaf Llychlyn yw Eglwys Gadeiriol Nidaros (Norwyeg Nidarosdomen). Wedi'i lleoli yn Trondheim, trydedd ddinas Norwy, hon oedd eglwys gadeiriol archesgobion Norwy hyd y Diwygiad Protestannaidd, ac wedyn eglwys gadeiriol esgobion Lutheraidd y ddinas. Mae arddull yr eglwys yn Romanesg a Gothig. Hon yw eglwys gadeiriol ganoloesol fwyaf gogleddol y byd a'r eglwys gadeiriol fwyaf yn Llychlyn. Daw ei henw o hen enw dinas Trondheim, Nidaros (am ei bod ar lannau Afon Nidelva).

Hanes[golygu | golygu cod]

Wyneb gorllewinol Eglwys Gadeiriol Nidaros
Cerflun ar wyneb Nidarosdomen (llun: Morten Dreier)
Nidarosdomen yn 1857

Capel Olaf Sant[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad mae'r brif allor yn sefyll ar y llecyn lle claddwyd Sant Olaf (c.995-29 Gorffennaf, 1030), sant cenedlaethol Norwy, ar ôl iddo gael ei ladd ym mrwydr Stiklestad. Canoneiddiwyd Olaf yn 1031 ac yn yr un flwyddyn codwyd capel pren bychan ar safle ei fedd.

Yr adeiladu cynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gwaith ar yr adeilad presennol yn 1070, pan godwyd eglwys garreg ar safle'r hen gapel ar orchymyn Olaf Fwyn, nai Sant Olaf. Roedd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 1090.

Yn 1151 cafodd Nidarosdomen ei wneud yn gadeirlan yr esgobaeth. Ymdyrrai pererinion o bob cwr o Norwy a'r tu hwnt. Cychwynwyd ar gyfnod o waith adeiladu uchelgeisiol gan yr archesgobion cyntaf, Jon ac Øyrtin. Ymddengys fod nifer o'r crefftwyr a huriwyd wedi dod o Loegr. Ychwanegwyd nifer o gerfluniau yn yr arddull Romanesg Eingl-Normanaidd. Yn 1183 dychwelodd Øyrtin o gyfnod o alltudiaeth yn Lloegr ac ychwanegodd gafell yn yr arddull Gothig cynnar (a orffenwyd rhwng 1210 a 1220).

Yn y 1240au, ychwanegwyd cangell a gyda hynny roedd yr adeiladwaith newydd wedi disodli gwaith Olaf Fwyn yn llwyr i greu'r eglwys gadeiriol fwyaf yn Norwy. Roedd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn tua 1300 - 1320. Ar y pryd fe'i hystyrid yr eglwys gadeiriol fwyaf ysblennydd yng ngwledydd Llychlyn.

Tanau dinistriol[golygu | golygu cod]

Fodd bynnag, cafodd ei hesgeuluso o ddiwedd y 15g ymlaen. Dioddefodd ddifrod difrifol mewn tanau. Yn 1328 collwyd y to a phopeth o bren. Creodd gryn difrod gan ddau dân arall yn 1432 a 1451. Erbyn hynny roedd yr eglwys yn dlawd ac yn methu fforddio atgyweirio'r adeilad. Yn 1531 dioddefodd dinas Trondheim dân anferth a ddinistriodd ran helaeth o'r hen ddinas; llosgwyd y gadeirlan i gyd bron, ac eithrio'r gangell, gan adael corff yr eglwys yn adfail. Yn 1708 cafwyd tân mawr arall a'i llosgodd i lawr yn llwyr ac eithrio'r muriau cerrig. Trawyd yr egwlys gan fellt ym 1719, dan ddioddef difrod tân sylweddol unwaith eto.

Atgyweirio[golygu | golygu cod]

Erbyn dechrau'r 19g roedd hi mewn cyflwr drwg. Dechreuwyd ei hatgyweirio yn 1869, i ddechrau o dan arweinyddiaeth y pensaer Heinrich Ernst Schirmer, wedyn o dan Christian Christie. Rhoddwyd y cerflun newydd olaf yn ei le ar y wyneb gorllewinol yn 1983. Cwblhawyd y gwaith yn swyddogol yn 2001. Erbyn heddiw mae hi'n addurn pennaf dinas Trondheim, ond mae gwaith cynnal yr eglwys yn parháu yn gyson.

Y cysylltiad brenhinol[golygu | golygu cod]

Coronid brenhinoedd Norwy yn yr eglwys o 1400 hyd y Diwygiad Protestannaidd ag uno llawnach Norwy â Denmarc. Ailgychwynwyd yr arfer ar ôl annibyniaeth Norwy ym 1814. Mae saith o frenhinoedd wedi cael eu coroni yn yr eglwys a deg wedi'u claddu yno. Cynhaliwyd y coroni olaf ym 1906. Ers hynny, mae brenhinoedd Norwy wedi derbyn bendith yr Eglwys yno. Cedwir tlysau brenhinol Norwy yn y gadeirlan.

Amgueddfa'r gadeirlan[golygu | golygu cod]

Yn yr amgueddfa yn y crypt ceir rhai o'r enghraifftiau gorau a chynharaf o gerfluniau ar garreg yn Norwy a nifer o slabiau cerfiedig gydag arysgrifau Lladin a Norseg. Dyma'r casgliad pwysicaf o'i fath yn y wlad.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]