Sgwrs:Eglwys Gadeiriol Nidaros

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rydyn ni'n gweithio ar yr erthygl ar yr un pryd! Dwi wedi ychwanegu beth dwi wedi ei wneud, ond mae'n rhaid cyfuno'r ddau! Daffy 21:46, 4 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Roeddwn i'n ofni buasai hynny'n ddigwydd! 'Da ni ar yr un trywydd heno efo'r pethau Llychlynaidd a Norwyaidd 'ma! Fedri di drwsio fo? Anatiomaros 22:03, 4 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Dwi wedi trwsio fe. Nei di fwrw golwg drosto? O le gest ti'r dyddiad 1320 ar gyfer cwblhau adeiladu'r eglwys? Daffy 22:10, 4 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Diolch. Dwi wedi rhoi tipyn o drefn arni. Dim yn berffaith ond mi wneiff y tro am rwan. Ynglŷn â'r dyddiad, dyna sydd mewn un o fy hoff lyfrau ar Norwy, Norway Today (Oslo, 1956). Mae 'na gazetteer yn y cefn. Dwi'n siwr fedra'i siecio rywle arall hefyd ond dyna oedd y llyfr mwya cyfleus ar y pryd! Efallai nad yw'n gywir, serch hynny. Anatiomaros 22:33, 4 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]