Edward Carnes
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Edward Carnes | |
---|---|
Ganwyd | c. 1772 ![]() Treffynnon ![]() |
Bu farw | 25 Mai 1828 ![]() o teiffws ![]() Treffynnon ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau, gwerthwyr deunydd ysgrifennu ![]() |
Argraffydd a llyfrwerthwr Cymreig oedd Edward Carnes (c.1772 - 25 Mai 1828)[1] a oedd yn frawd i William Carnes. Ardal eu mebyd oedd Treffynnon, Sir y Fflint.
Yn ôl y dystiolaeth cychwynnodd Edward ar waith argraffu tua mis Mehefin 1796. Mae'n bosibl y bu'n llyfrwerthwr cyn hynny ac o'r herwydd yn gyfarwydd â'r byd cyhoeddi Cymraeg a Saesneg. Un enghraifft o'i ddawn fel crefftwr ydy'r gwaith a gyflawnodd i David Jones gydag argraffiad 1823 o Flodeu-Gerdd y Cymry. Bu'r ddau frawd yn weithgar yn yr un dref, gan fod swyddfa Edward yn Stryd Whitford yn 1828, tra roedd William yn rhwymo llyfrau yn Stryd y Ffynnon tua'r un cyfnod. Bu farw Edward Carnes o'r dwymyn ar 25 Mai 1828 yn 58 oed.
Ffynonnellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923, Ifano Jones, (1925).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd 2 Mehefin 2016