Edith How-Martyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edith How-Martyn
Edith How-Martyn, c.1914. (22935202271) (cropped).jpg
Ganwyd 17 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Chwefror 1954 Edit this on Wikidata (78 oed)
Sydney Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Eglwys-goleg Gogledd Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, swffragét Edit this on Wikidata

Swffragét o Loegr oedd Edith How-Martyn (17 Mehefin 1875 - 2 Chwefror 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am gael ei harestio yn 1906 am geisio areithio yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU).

Roedd ei harestio hi am geisio areithio yn Nhŷ'r Cyffredin ymhlith protestiadau ac ymgyrchoedd milwriaethus cyntaf, yng ngwledydd Prydain dros hawliau merched.

Cyfarfu â Margaret Sanger yn 1915 ac aeth y ddwy ati i drefnu cynhadledd yn Genefa. Aeth How-Martyn ar daith o amgylch India yn siarad am reoli beichiogrwydd. Nid oedd ganddi unrhyw blant a bu farw yn Awstralia.

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Llundain ar 17 Mehefin 1875; bu farw yn Sydney, Awstralia. Groseriaid, Edwin ac Ann How oedd ei rhieni, a daeth ei chwaer Florence Earengey yn gyfreithwraig. Derbyniodd Edith ei haddysg yn y North London Collegiate School ble gwrthryfelodd yn erbyn yr anhegwch fod y bechgyn yn derbyn hawliau nad oedd yn cael eu rhoi i ferched. Oddi yno aeth i Prifysgol Aberystwyth lle astudiodd ffiseg a cherddoriaeth, gan dderbyn ail radd, allanol wedyn o Brifysgol Llundain yn 1903. [1][2][3]

Charlotte Despard, Edith How Martyn (canol) ac Emma Sproson; tua 1914

Priododd George Herbert Martyn yn 1899.[3] Roedd ganddi ei barn ei hun, barn radical o flaen ei hoes. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol ac yna'n aelod o'r WSPU yn 1905. Y flwyddyn ganlynol fe'i penodwyd yn gyd-ysgrifennydd y WSPU gyda Charlotte Despard ac ym mis Hydref 1906 cafodd ei harestio yng nghyntedd Tŷ'r Cyffredin yn ceisio rhoi araith. Hi oedd un o'r aelodau WSPU cyntaf i fynd i'r carchar pan gafodd ddedfryd o ddau fis.[4]

Fodd bynnag, roedd cyfeiriad WSPU o dan arweiniad y Pankhursts yn fater o bryder mawr iddi, fel yr oedd i aelodau eraill ar yr adeg hon. Yn 1907, ynghyd â Charlotte Despard ac eraill, gadawodd y grŵp i ffurfio Cynghrair Rhyddid y Menywod (Women's Freedom League; WFL). Gwrthododd y grŵp newydd hwn dactegau treisgar y grŵp hŷn; roeddent o blaid gweithredoedd anghyfreithlon, di-drais i gyfleu eu neges. Bu'n ysgrifennydd anrhydeddus y grŵp newydd o 1907 i 1911, pan ddaeth yn bennaeth yr adran Wleidyddol a Milwriaethus. Fodd bynnag, ymddiswyddodd ym mis Ebrill 1912, yn siomedig â diffyg cynnydd y WFL, wedi i'r Bil Cymodi gael ei drechu.

Cynghorydd Sir[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithred wleidyddol nesaf How-Martyn oedd sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Hendon yn etholiad cyffredinol 1918, ond bu'n aflwyddiannus. Cynhaliodd swydd gyhoeddus am y tro cyntaf Yn 1919, pan ddaeth yn aelod o Gyngor Sir Middlesex, swydd a ddaliodd hyd at 1922.

Atal cenhedlu[golygu | golygu cod y dudalen]

O hynny ymlaen, cyfeiriwyd ei diddordebau yn bennaf at atal cenhedlu. Cyfarfu â Margaret Sanger, arweinydd ymgyrch "cynllunio teulu" America yn 1915 ac roedd ei syniadau wedi creu argraff arni, ac aeth ati i drefnu Cynhadledd Poblogaeth y Byd 1927 yn Genefa gyda Sanger a dod yn gyfarwyddwr anrhydeddus yCanolfan Wybodaeth Rhyngwladol Atal cenhedlu yn Llundain yn 1930.[5]

Cofnodi[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi taith hir o amgylch India symudodd hi a'i gŵr i Awstralia lle cychwynodd sgwennu am y mudiad hawliau merched, yn bennaf yn y Suffragette Fellowship.[5][6] Bu farw yn dilyn stroc, mewn cartref hen bobl yn Awstralia.[7]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, https://www.oxforddnb.com/Wikidata Q17565097
  2. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, https://www.oxforddnb.com/Wikidata Q17565097
  3. 3.0 3.1 (yn en) Martyn, Edith How (1875–1954), suffragist and advocate of birth control | Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-56238. http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-56238?rskey=IAIuUG&result=1.
  4. "Edith How-Martyn" (yn en). Spartacus Educational. http://spartacus-educational.com/Wmartyn.htm.
  5. 5.0 5.1 ""Margaret Sanger and Edith How-Martyn: An Intimate Correspondence"". Margaret Sanger Project Newsletter #5 (Gwanwyn 1993). Cyrchwyd 25 Chwferor 2018. Check date values in: |access-date= (help)
  6. Diana Wyndham. "'Norman Haire and the Study of Sex'". Foreword by the Hon. Michael Kirby AC CMG. (Sydney: "Sydney University Press".2012), tt. 308 and 376
  7. Bywgraffiad. Mrs Edith How-Martyn. Early days of the Suffragettes', The Times, 4 Chwefror 1954, t. 8.