Charlotte Despard

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charlotte Despard
Mrs. Despard (suffragette).jpg
Ganwyd Margaret Charlotte French Edit this on Wikidata
15 Mehefin 1844 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Tachwedd 1939 Edit this on Wikidata (95 oed)
Belffast Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth Gwleidydd, nofelydd, ymgyrchydd, Ysgrifennwr, Swffraget, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur, Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét Gwyddelig o Gaint, Loegr oedd Charlotte Despard (née French; 15 Mehefin 1844 - 10 Tachwedd 1939) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, nofelydd ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd yn un o sefydlwyr Cynghrair Rhyddid y Merched (Women's Freedom League), Crwsâd Heddwch y Merched (Women's Peace Crusade) a Chynghrair Etholfraint Gwyddelod Benywaidd (the Irish Women's Franchise League). Er iddi sefyll yn gadarn fel heddychwr, roedd hefyd yn aelod o Sinn Féin a Cumann na mBan.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Charlotte French yn Ripple, Caint ar 15 Mehefin 1844 a bu farw yn Belffast a'i chladdu ym Mynwent Glasnevin, Iwerddon. Roedd yn ferch i'r Capten John Tracy William French o'r Llynges Frenhinol (a fu farw ym 1855) a Margaret French, née Eccles (a fu farw yn 1867).[2] Daeth ei brawd John French yn brif reolwr milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn Arglwydd Raglaw Iwerddon, gan roi'r brawd a chwaer mewn dau gae hollol wahanol i'w gilydd.

Ni chafodd addysg ffurfiol, ac roedd hyn yn ei phoeni gydol ei hoes, er iddi fynychu ysgol yn Llundain am ysbaid. Yn 1870, priododd y dyn busnes Maximilian Carden Despard, a fu farw ar y môr yn 1890; nid oedd ganddynt blant.[3]

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd nofel Saesneg gyntaf Despard, Chaste as Ice, Pure as Snow yn 1874. Yn ystod yr un-deg-chwe mlynedd nesaf, ysgrifennodd ddeg nofel, na chyhoeddwyd tri ohonynt erioed. Cyhoeddwyd y nofel Outlawed: a Novel on the Women's Suffrage Question yn 1908 ar y cyd â'i ffrind, Mabel Collins.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn ffrindiau da gydag Eleanor Marx ac roedd yn ddirprwy yn yr "Ail Ryngwladol" (the Second International), gan gynnwys y pedwerydd cyngres yn Llundain yn 1896. Ymgyrchodd yn erbyn Ail Ryfel y Boer gan ddatgan ei fod yn "rhyfel drwg y llywodraeth gyfalafol hon" ac aeth ar daith o amgylch y gwledydd Prydain yn siarad yn erbyn defnyddio gorfodaeth filwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ffurfio mudiad heddwch o'r enw "Crwsâd Heddwch y Merched" i wrthwynebu pob rhyfel.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Grwsâd Menywod dros Heddwch, Yr Undeb Cenedlaethol dros yr Hawl i Fenywod Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, Cynghrair Rhyddid Merched, Cymdeithas y Merched a Chyfeillion Rwsia Sofietaidd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Leneman, Leah (1997). "The awakened instinct: vegetarianism and the women's suffrage movement in Britain", Women's History Review, Cyfrol 6, Rhif 2.
  2. Margaret., Mulvihill (1989). Charlotte Despard : a biography. London: Pandora. pp. 13–14. ISBN 978-0863582134. OCLC 26098404. 
  3. Adam, Hochschild (2011). To end all wars : a story of loyalty and rebellion, 1914-1918. Boston: Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 9780618758289. OCLC 646308293.