Dynes
Math | oedolyn, bod dynol benywaidd |
---|---|
Y gwrthwyneb | dyn |
Rhagflaenwyd gan | merch |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bod dynol benywaidd aeddfed yw dynes neu fenyw (woman yn Saesneg) (mewn cyferbyniaeth â dyn) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig. Mae'n tarddu o'r gair dyn a olygai'n wreiddiol ‘bod dynol’. Lluosog y gair dynes yw merched neu wragedd.
Benywdod yw'r cyfnod ym mywyd y ddynes ar ôl iddi fynd drwy blentyndod, glasoed a llencyndod. Mae gan wahanol wledydd ddeddfau gwahanol, ond ystyrir yn aml 18 oed y llawn oed (yr oed pan ddaw person oedolyn cyfreithiol).
Defnyddir y geiriau hogan, merch a geneth (ll. genod) i gyfeirio nid yn unig at blentyn benyw neu lances yn gyffredinol, ond hefyd at ddynes weithiau. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!
Ceir yn ogystal y term gwraig i ddynodi dynes briod, hen ferch (hyfed hen lances) i ddynodi dynes ddi-briod dros yr oed confensiynol i briodi a gweddw i ddynodi gwraig sydd wedi colli ei gŵr.
Defnydd pellach o'r gair
[golygu | golygu cod]- hen wraig(en) = old woman
- pladres o ddynes = a large woman
- Cymorth i Fenywod = Women's Aid
- Sefydliad y Merchaid = Women's Institute
- meddyges = woman doctor
Bioleg a rhyw
[golygu | golygu cod]Mae system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys:
Organau cenhedlu benywaidd | |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Benyweidd-dra
- Merch
- Arddegwyr (glasoed)
- Gwryw
- Rhywedd
- Ffeministiaeth