Dyfrig Wynn Jones
| Dyfrig Wynn Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | Ionawr 1977 Bangor |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlithydd, golygydd |
Darlithydd, golygydd, newyddiadurwr a chyfarwyddwr teledu o Gymru yw Dyfrig Wynn Jones (ganwyd Ionawr 1977).
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ym Medi 2008 fe'i penodwyd fel darlithydd mewn Astudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu i’r Cyfryngau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Erbyn hyn mae'n Uwch Darlithydd yn Astudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant a Iaith. Ei ddiddordebau ymchwil yw ffilmiau a rhaglenni dogfen, theori cynhyrchu, polisi'r cyfryngau, a chomics.
O fis Tachwedd 2006 i Fawrth 2009 ef oedd golygydd cylchgrawn Barn, a chyn hynny bu'n gweithio fel cynhyrchydd-gyfarwyddwr gyda Ffilmiau'r Bont sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon.
Roedd Dyfrig yn aelod o Bwyllgorau Cynnwys ac Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.[1] Roedd hefyd rhwng 2011 a 2013, yn un o gyfarwyddwyr Awdurdod S4C (a'r canlynol: S4C Digital Media Ltd, S4C Masnachol Cyf, S4C Rhyngwladol Cyf ac S4C2 Cyf).[2]
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cafodd ei ethol fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn 2008. Roedd yn cynrychioli ward Gerlan ond ni gystadlodd yn etholiadau Mai 2017.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Dyfrig Wynn Jones ar X
- Blog Answyddogol - blog personol Dyfrig Jones