Dyfalu

Oddi ar Wicipedia

Mewn barddoniaeth, techneg neu ddefod sy'n cyffelybu gwrthrychau'n ffansïol drwy ddefnyddio troadau barddonol fel trosiad, personoliad ac arallenwad yw dyfalu. Fel defod mae'n nodweddiadol o waith Beirdd yr Uchelwyr - er y ceir enghreifftiau cynharach - ac fe'i cysylltir yn bennaf â'r cywydd yn ei anterth. Ceir canu tebyg yn nhraddodiad barddol Iwerddon a rhai gwledydd eraill hefyd.

Ceir un o'r enghreifftiau cynharaf mewn barddoniaeth Gymraeg yn y gerdd 'Canu i'r Gwynt', a briodolir i Daliesin (Llyfr Taliesin):

Dychymyg pwy yw: cread cyn Dilyw;
Creadur cadarn, heb gig, heb asgwrn,
Heb wythau, heb waed, heb ben a heb draed,
Ni bydd hŷn, ni bydd iau noged i ddechrau...[1]

Fel defod a thechneg, mae gan ddyfalu berthynas agos â dychan barddonol, a chred ysgolheigion ei fod yn tarddu o'r dosbarth hwnnw o ganu. Ar y cyfan mae'n tueddu i fod yn negyddol, h.y. yn difenwi rhywun neu rywbeth, ond mewn rhai achosion gall fod yn bositif hefyd, i ddyrchafu neu glodfori.

Ceir enghraifft dda o ddyfalu positif mewn cerddi adnabyddus gan Dafydd ap Gwilym yn ei gywyddau i'r Seren ac i'r Gwynt. Yng 'Nghywydd y Llafurwr' gan Iolo Goch, mae'r bardd yn dyfalu'r aradr fel ymgorfforiad o rinweddau'r llafurwr diflino ei hun. Ar yr ochr negyddol, gwelir enghraifft dda o ddyfalu yn y gerdd 'Dychan i Rys Meigen' gan Ddafydd ap Gwilym.

Daeth amlhau trosiadau wrth ddyfalu yn nodwedd arbennig o waith y Cywyddwyr, yn enwedig mewn cerddi dychan a cherddi gofyn. Ar ei orau, mae dyfalu yn gallu bod yn orchestol dros ben, ond yn nwylo bardd llai mai'n gallu mynd yn fwrn ar y cynulleidfa.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. Gwenogvryn Evans (gol.), Llyfr Taliesin, tud. 36.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.