Dorti Ddu

Oddi ar Wicipedia
Dorti Ddu
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Dorti Ddu a oedd yn byw yn ardal Llandecwyn, plwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd.

Yn ôl chwedloniaeth ardal Llandecwyn, roedd Dorti yn wrach oedd yn byw ar ei phen ei hun. Yn ôl y chwedl, byddai hi’n rheibio’r rheini fyddai’n mynd yn ei herbyn, neu’n dod yn rhy agos i’w thŷ.

Roedd hi’n cario cath ddu drwy’r amser ac yn aml yn cael ei gweld yn marchogaeth buwch. Mae hi wedi ei chladdu ger Llyn Tecwyn Uchaf, yn ôl bob sôn, ac mae’n draddodiad lleol i adael cerrig gwyn ar ei bedd, rhag ofn iddi ddychwelyd i’r ardal.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. taithardudwyway.com; adalwyd 29 Hydref 2019.