Dorothy Hewett

Oddi ar Wicipedia
Dorothy Hewett
GanwydDorothy Coade Hewett Edit this on Wikidata
21 Mai 1923 Edit this on Wikidata
Perth, Gorllewin Awstralia Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 2002 Edit this on Wikidata
Springwood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Prifysgol Gorllewin Awstralia
  • Coleg Perth, Awstralia Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, nofelydd, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantTom Flood, Kate Lilley Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Christopher Brennan, Gwobr Barddoniaeth Newcastle, Aelod o Urdd Awstralia Edit this on Wikidata

Bardd o Awstralia oedd Dorothy Coade Hewett (21 Mai 1923 - 25 Awst 2002) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, dramodydd ac awdur.

Fe'i ganed yn Perth, Gorllewin Awstralia a bu farw yn Springwood o ganser y fron. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Gorllewin Awstralia, Coleg Perth, Awstralia.[1][2][3][4] Roedd Tom Flood a Kate Lilley yn blant iddi.

Mae hi wedi cael ei galw'n "un o awduron Awstraliaidd mwyaf poblogaidd ac uchel ei pharch".[5]

Roedd yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol am gyfnod, er iddi wrthdaro ar sawl achlysur ag arweinyddiaeth y blaid. I gydnabod ei 20 cyfrol o lenyddiaeth gyhoeddedig, fe'i anrhydeddwyd gyda Gorchymyn Awstralia, mae ganddi blac Taith Cerddor yn Circular Quay, a stryd a enwyd ar ei hôl yn Canberra. Sefydlwyd Gwobr Dorothy Hewett am lawysgrif heb ei chyhoeddi yn 2015 gan PCA Publishing. Derbyniodd hefyd Wobr Christopher Brennan.[6]

Ym mis Mehefin 2018, honnodd merched Hewett, Kate a Rozanna Lilley, eu bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn eu harddegau gan yr awdur a'r newyddiadurwr Bob Ellis, yr artist Martin Sharp, a dynion eraill ar sawl achlysur gwahanol, gyda chymeradwyaeth eu mam.[7]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hewett yn Perth, Gorllewin Awstralia ac fe'i magwyd ar fferm ddefaid a gwenith ger Wickepin yn Ardal y Gwenith. Cafodd ei haddysgu gartref yn y lle cyntaf a thrwy gyrsiau-gohebu. Yn 15 oed aeth i Goleg Perth, a redwyd gan leianod Anglicanaidd. Roedd Hewett yn anffyddiwr, gan aros felly drwy gydol ei bywyd.

Yn 1944 dechreuodd Hewett astudio Saesneg ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia (PGA). Yma yr ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Awstralia (CPA) yn 1946 a dechreuodd ysgrifennu'r rhan fwyaf o The Workers Star, papur newydd plaid Gomiwnyddol Gorllewin Awstralia, dan lysenwau. Yn ystod ei chyfnod yn PCA enillodd gystadleuaeth ddrama fawr a chystadleuaeth farddoniaeth genedlaethol. [8][9]

Yn 1944 priododd â chyfreithiwr, sef y comiwnydd Lloyd Davies a ganwyd mab iddynt a fu farw o liwcemia pan oedd yn dair oed. Daeth y briodas i ben ym 1948, yn dilyn ymadawiad Hewett i Sydney i fyw gyda Les Flood, gwneuthurwr boeleri, yr oedd ganddi dri mab, Joe, Michael a Tom. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd Hewett trodd Hewett yn newyddiadurwr o dan gwahanol lysenwau ar gyfer y papur Comiwnyddol, y Tribune; ar y pryd roedd llywodraeth Menzies wedi ei wneud yn anghyfreithlon.[10]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r berthynas hon ddod i ben ym 1958 dychwelodd Hewett i Perth i ddechrau swydd addysgu yn adran Saesneg Prifysgol Gorllewin Awstralia. Ysgogodd y symudiad hwn hi hefyd i ddechrau ysgrifennu eto. Jeannie (1958) oedd y darn cyntaf a gwblhaodd yn dilyn ei hiatus gorfodol; yn ddiweddarach cyfaddefodd Hewett fod y profiad o ysgrifennu'r gwaith hwn yn gwbwl newydd a diarth iddi.

Cyhoeddodd Hewett ei nofel gyntaf, Bobbin Up, ym 1959. Fel mae'r teitl yn awgrymu mae'n waith lled-hunangofiannol yn seiliedig ar ei hamser yn Sydney, roedd y nofel yn gartharsis i Hewett. Mae'r nofel yn cael ei hystyried yn enghraifft glasurol o realaeth gymdeithasol. Roedd yn un o'r ychydig weithiau gorllewinol a drosglwyddwyd i Rwsia yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Ail-gyhoeddodd Vulgar Press y llyfr ym 1999, 40 mlynedd ar ôl ei gyhoeddiad cyntaf.[11]

Ym 1960 priododd Hewett â Merv Lilley (1919-2016), priodas a barodd tan ddiwedd ei bywyd. Cawsant ddwy ferch, Kate a Rose yn 1960 ac, yn 1961, cyhoeddodd y cwpl gasgliad ar y cyd o farddoniaeth o'r enw What About the People!


Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Christopher Brennan, Gwobr Barddoniaeth Newcastle, Aelod o Urdd Awstralia (1986)[12] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12530093r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12530093r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2.
  3. Dyddiad geni: http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2. "Dorothy Hewett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Hewett".
  4. Dyddiad marw: http://www.theguardian.com/news/2002/sep/05/guardianobituaries2. "Dorothy Hewett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Hewett".
  5. Birns & McNeer.A Companion to Australian Literature Since 1900, Camden House, 2007
  6. "The Dorothy Hewett Award for an Unpublished Manuscript". UWA Publishing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  7. "Dorothy Hewett's daughters Rozanna and Kate Lilley talk about re-casting their mum's image in the age of #MeToo". abc.net.au. 2018-06-21. Cyrchwyd 2019-06-19.
  8. Galwedigaeth: http://blogcritics.org/books/article/book-review-selected-poems-of-dorothy/.
  9. Anrhydeddau: https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/870127.
  10. trove.nla.gov.au; adalwyd 15 Gorffennaf 2019.
  11. britannica.com; adalwyd 15 Gorffennaf 2019
  12. https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/870127.