Dmitry Donskoy
Gwedd
| Dmitry Donskoy | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Hydref 1350 Moscfa |
| Bu farw | 19 Mai 1389 Moscfa |
| Dinasyddiaeth | Uchel Ddugiaeth Moscfa |
| Galwedigaeth | gwladweinydd |
| Swydd | Prince of Moscow, Grand Duke of Vladimir |
| Dydd gŵyl | 19 Mai |
| Tad | Ivan II of Moscow |
| Mam | Alexandra Velyaminova |
| Priod | Eudoxia of Moscow |
| Plant | Vasily I of Moscow, Yury of Zvenigorod, Andrew of Mozhaysk, Peter of Dmitrov, Konstantin of Uglich, Anna Dmitrievna of Moscow, Mariya Dmitriyevna Moskovskaya, Sofya Dmitriyevna, Anastasia Dmitrievna, Ivan Dmitrievich |
| Llinach | Rurikids |

Tywysog Mawr Moscow o 1359 hyd 1389 a Thywysog Mawr Vladimir o 1359 hyd 1389 oedd Dmitry Ivanovich Donskoy (Rwsieg Дмитрий Иванович Донской) (12 Hydref 1350 - 19 Mai 1389). Ei lysenw oedd Donskoy: daw o'i fuddugoliaeth adnabyddus dros y Mongoliaid ym Mrwydr Kulikovo Pole ger Afon Don yn ne Rwsia.
Yn ystod ei deyrnasiad, llwyddodd Dmitry i ehangu goruchafiaeth Tywysogaeth Moscow dros y tywysogaethau Rwsiaidd eraill. Roedd ei fuddugoliaeth dros y Mongoliaid ar faes Kulikovo Pole yn drobwynt yn hanes Rwsia. Am y tro cyntaf, roedd lluoedd un o'r tywysogaethau Rwsiaidd wedi trechu'r Mongoliaid. O hyn ymlaen, roedd grym y Mongoliaid yn Rwsia ar drai tan iddynt gael eu diarddel o'r wlad yn llwyr yn 1480.
