Djenné
Math | commune of Mali |
---|---|
Gefeilldref/i | Gwitreg, Fès |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | hen drefi Djenné |
Sir | rhanbarth Mopti |
Gwlad | Mali |
Arwynebedd | 302 km² |
Uwch y môr | 278 metr |
Cyfesurynnau | 13.9°N 4.55°W |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Dinas fechan sydd â hanes hir iddi sy'n gorwedd yn ardal delta mewndirol Afon Niger yng nghanolbarth Mali, gorllewin Affrica yw Djenné (hefyd Dienné neu Jenne). Mae'n ganolfan masnach leol bwysig sy'n gorwedd fymryn i'r gorllewin o'r Afon Bani (llifa'r Niger heibio i'r gorllewin a'r gogledd). Mae ganddi boblogaeth o tua 12,000 (1987) o sawl grŵp ethnig.
Mae'r ddinas hynafol hon yn enwog am ei phensaernïaeth bric mwd (adobe) drawiadol, yn enwedig Mosg Mawr Djenné, a godwyd yn wreiddiol yn 1220 ac a gafodd ei aildeiladu yn 1907. Yn y gorffennol, roedd Djenné yn ganolfan dysg a masnach a fu'n adnabyddus ar draws gorllewin Affrica a hyd yn oed yn y byd Arabaidd dros y Sahara i'r gogledd gan denu ysgolheigion o sawl rhan o fyd Islam. Dyma'r ddinas hynaf a wyddys yn yr Affrica is-Saharaidd ; cyhoeddwyd ei chanol hanesyddol, yn cynnwys y Mosg Mawr, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988. Yn weinyddol mae'n rhan o ranbarth Mopti.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Djenné ar wefan UNESCO