Dinas Panamâ
| Delwedd:Panorámica nocturna de la ciudad de Panamá.jpg, Panama City Skyline 1.jpg | |
| Math | dinas, ardal fetropolitan, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,540,000 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Mayer Mizrachi |
| Cylchfa amser | UTC−05:00 |
| Gefeilldref/i | Taipei, Fort Lauderdale, Guadalajara, Incheon, Miami, Tel Aviv, Paita, Dinas Mecsico, Madrid, San Diego, Manila, Barranquilla, Callao, Imabari |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Central Panama |
| Sir | Panamá District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 275 km² |
| Uwch y môr | 20 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Camlas Panamâ |
| Cyfesurynnau | 8.9711°N 79.5347°W |
| Cod post | 0801 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mayer Mizrachi |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Pedro Arias Dávila |
Prif ddinas Panamâ yw Dinas Panamâ (Sbaeneg: Panamá). Mae hi ar arfordir y Cefnfor Tawel ac ar Gamlas Panamâ. Mae tua 708,738 o bobl yn byw yno. Dinas Panamâ ydy canolbwynt gwleidyddol, gweinyddol a diwylliannol y wlad.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y ddinas hon gan Pedro Arias de Ávila (Pedrarias Davila) ar 15 Awst 1519. Ers y cyfnod hynny, mae masnach ar draws y culdir wedi bod yn bwysig iawn i'r ddinas. O'r fan yma roedd yr alldaith a choncwest Periw wedi dechrau ac roedd yr aur a'r arian yn cael eu danfon i Sbaen trwy'r dref. Ym 1671 roedd Henry Morgan a 1400 o ddynion eraill wedi ymosod ar y dref ac fe'i llosgwyd o ganlyniad. Mae olion y dref i'w gweld hyd yn oed heddiw ond adeiladwyd y dref newydd rhyw 5 milltir i'r gorllewin ym 1673. Enw olion y dref cyntaf yw Panamá la Vieja ac mae llawer o dwristiaid yn ymweld â'r fan.
Pan ddarganfuwyd aur yn Nghaliffornia ym 1848, cynyddodd y nifer o deithwyr a oedd yn mynd trwy Banamâ i'r gogledd. Y flwyddyn cyn hynny, sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Panamâ, ond nid oedd trenau yn rhedeg cyn 1855. Fodd bynnag, adeiladwyd y rheilffordd gyntaf o'r arfordir gorllewinol i arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau ym 1869, ac felly roedd tua 375,000 o bobl yn teithio trwy Banamâ i'r arfordir gorllewinol a thua 225,000 o bobl i'r arfordir dwyreiniol. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu y datblygodd Panamâ yn ddinas gyfoethog iawn ar y pryd.
Roedd Camlas Panamâ yn golygu ffyniant o'r newydd i'r ddinas. Yn bennaf, roedd iechyd y boblogaeth yn gwella o ganlyniad i waith yr Americanwyr yng Nghylchfa'r Gamlas. Roedd llai o glefyd melyn a malaria ac roedd y gwasanaeth dŵr yn well. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd canolfannau milwrol ar hyd y gamlas gan luoedd yr Unol Daleithiau. O ganlyniad roedd llawer o bobl milwrol a sifil yn dod i'r ddinas ac yn gwario eu harian yno, ond ar y llaw arall nid oedd pawb yn hapus i weld byddin gwlad dramor yn eu gwlad ac roedd llawer o'r canolfannau milwrol ar lannau'r gamlas - ac felly roedd hi'n amhosib i'r trigolion gyrchu yno cyn y 1960au.
Rhwng y 1970au a'r 1980au daeth Panamâ i fod yn ganolfan i fanciau rhyngwladol, ond gwelwyd problemau gyda gwyngalchu arian hefyd.
Ar ôl bron i flwyddyn o densiwn rhwng UDA a Phanamâ, gorchmynodd Arlywydd Bush oresgyniad Panamâ a chwymp General Manuel Noriega. O ganlyniad, llosgwyd un ardal o'r ddinas o'r enw El Chorillo, ond cafodd ei ail-adeiladu gydag arian o'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach.
Heddiw, mae'r ddinas yn dal i fod yn ganolfan bancio rhyngwladol. Mae porthladd yn Balboa, y dref gyfagos.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Basilica Sant John Bosco (eglwys)
- Estadio Rommel Fernandez
- Puente de las Américas (pont)
- Ysbyty Gorgas
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Guillermo Endara, gwleidydd (1936-2009)
- Flex (g. 1979), canwr
